‘Ni all ddiwylliant ffynnu heb sylfaen economaidd iach. Cadarnle’r iaith yw byd amaeth a’i rwydwaith estynedig’
Wrth sôn y tro diwethaf am y cwmnïau hynny benderfynodd ganu’n iach i Ewrop fe gyfeiriwyd at agwedd elyniaethus y drefn ddeddfwriaethol tuag at gerbydau gyriant pedair olwyn (4x4) Diesel. Gwrthrych atgasedd pregethwyr yr ‘efengyl werdd’ yw ‘Chelsea tractors’ ffermwyr Fulham a’u tebyg. Cyfleus ond camarweiniol.
Er mai prif garfan y farchnad yw’r ‘SUV’ erbyn hyn, ceir pontio SUV-debyg yw nifer, a’r twf amlycaf ymhlith y lleiaf ac ysgafnaf. Os oes 4x4 ar gael o gwbl, dyfais ran-amser elfennol ar gyfer mentro oddi ar y tarmac yn achlysurol yw hi gan amlaf.
Gwahanol iawn yw 4x4 deu-ddiben all wynebu ‘tyrn o waith’. Er bod y cwmni’n graddol adael Ewrop, yn ddiweddar diwygiwyd pick-up L200 Mitsubishi a Shogun Sport cymharol newydd sy’n seiliedig arno. (Bydd y naill a’r llall ar gael am beth amser mae’n debyg.) Dyna hefyd berthynas Musso SsangYong ( pick-up) a’r Rexton; a Hilux Toyota a’r Land Cruiser.
’Does dim brawd ar ffurf ystâd i’r Ranger Ford (Rhif 1 y garfan yn y DU a’r UE), ond digon cysurus yw’r modelau pick-up cab-dwbl 4-drws bellach. Menter ar y cyd rhwng Ford a VW fydd Ranger ac Amarok (2022-23) dan arweiniad Ford, ond dirwyn i ben fu fersiwn X-klasse Mercedes a’r Navara Nissan. Daw D-Max newydd Isuzu yn 2021.
Mae ystod o gerbydau ar gyfer byd a bywyd cefn gwlad o hyd felly, ond nid ar gyfer amaethu’n unig maen nhw wrth gwrs.
Digon eang yw’r gweithgareddau sydd i’w disgwyl ganddo: hurio peiriannau, offer, ôl-gerbydau a chyfarpar; contractio technolegol a thrydanegol. Heb sôn am ddosbarthu bwydydd, manwerthu a milfeddygaeth.
Arwyr anhysbys yr economi wledig yw’r modurdai ceir, feniau, tractorau a cherbydau eraill newydd ac ail-law.
Mae ‘gweithio mewn garej’ yn frith o gyfleoedd gwerthu, gweinyddu, rheoli arian a chymwysterau technolegol (peiriannau, corffwaith, trydaneg gyfoes ac ati). Prin y gwelid unrhyw beth tebyg y tu allan i drefi poblog.
Mae bygythiad y Tai Haf yn hysbys i bawb ac mae’n warth na wnaed rhywbeth eisoes. Ond mae gwarchae hefyd ar yr economi wledig wrth i siopau, tafarndai, llythyrdai ac ati roi’r gorau iddi, a chyfyng yw hi ar y modurdai sy’n weddill. Ni all ddiwylliant ffynnu heb sylfaen economaidd iach. Cadarnle’r iaith yw byd amaeth a’i rwydwaith estynedig.
Peth anghyfiawn felly yw erlid cerbydau sy’n gaffaeliad digamsyniol i’r Gymru wledig. Gwasgarwyd traean y boblogaeth dros 80% o’i thirwedd, ac ‘ucheldir’ yw 75% ohono. Pe na derbynnir cais y gwneuthurwyr i’w ohirio, bydd cyfartaledd o 95g/ km CO2 yn orfodol ledled UE y flwyddyn nesaf (gan gynnwys y DU).
Mae’n seiliedig ar lwnc tanwydd 4.11L/100km (68.7myg) petrol neu 3.6L/100km (78.25myg) Diesel. Sylwer mor ddarbodus yw’r Diesel er yr holl edliw ohono.
Mae’r rheolau newydd yn cynwys cerbydau masnachol ysgafn ond dywedir fod cynlluniau ar y gweill i leihau hyn o 50% yn fuan wedyn (cyn diwedd y ddegawd hwyrach).
Er fod gan Toyota a Nissan ystod eang o geir trydan neu groesryw all liniaru cyfartaledd llwnc, CO2 ac ati, buasai’r fath orthrwm yn fygythiad i ddyfodol cerbydau
4x4 traddodiadol. (A thanwydd diogel yw Derv-Diesel unai i’w storio mewn tanc adref neu’i gludo mewn jerrycans wrth gefn - mae’n llawer llai fflamadwy na’r rhelyw.)
Nid ar gerbydau 4x4 yn unig y bydd byw ardal wledig wrth gwrs. Mae angen mwy o ymreolaeth dan gorff gweithredol all gydlynu gwaith cynghorau, parciau cenedlaethol ac eraill er mwyn adfer economïau lleol ac ymgyrchu o’u plaid.
Wedi ‘cyfnod y gofid’ wele gyfle i bentrefi a threfi llai eu maint adennill y tir gollwyd i ganolfannau dinesig trwy groesawu cerbydau modur a darparu parcio hwylus, di-dâl. Gyda marchnata, meithrin a chefnogi siopau, crefft-fentrau a masnach leol gellid hybu dadeni economaidd. Swyddi, tai fforddiadwy a chyfleoedd yw’r hanfodion.
Dros ddwy genhedlaeth mecaneiddwyd amaethyddiaeth ymhell y tu hwnt i unrhyw droi’n ôl. Felly hefyd cymdeithas a chymdeithasu. Mae cerbydau modur a chymhwyster arbennig gyriant 4x4 yn allweddol. Dylid elwa ar hyn oll yn hytrach na’i wrthwynebu.