Hanner canmlwyddiant cyhoeddiad hollol unigryw
Er ei fod yn disgrifio’i hun fel ‘microsefydliad’ mae Planet yn ymestyn tu hwnt i gyfyngiadau statws gwleidyddol Cymru er mwyn rhoi cipolwg ar y byd drwy lygaid Cymru, a chipolwg ar Gymru drwy lygaid y byd.
Dros y blynyddoedd bu Planet yn gyfrwng i rannu safbwyntiau gwleidyddol, a’r rheini yn aml yn rhai radical. Sefydlwyd y cylchgrawn yn sgil cyhoeddi ‘The Welsh Extremist: a Culture in Crisis’ gan olygydd cyntaf Planet, Ned Thomas - oedd yn apêl i fudiad y New Left yn Lloegr i gydsefyll â mudiad y Gymraeg.
Ers hynny mae’r cylchgrawn wedi rhoi llwyfan i waith arloesol ar faterion sy’n amrywio o annibyniaeth wleidyddol i newid hinsawdd a cholli rhywogaethau, a hynny’n aml gryn amser cyn i’r materion hynny gael eu trafod gan y cyfryngau prif ffrwd.
Drwy erthyglau am wleidyddiaeth a chyfiawnder cymdeithasol, mae Planet wedi rhoi sylwebaeth fanwl unigryw ar hanner canrif cythryblus yn hanes Cymru, gan groniclo ei phryderon a’i gobeithion drwy’r Rhyfel Oer, protestiadau gweithredu uniongyrchol dros y Gymraeg, ymddangosiad ffeministiaeth, Streic y Glowyr, Thatcheriaeth, integreiddio Ewropeaidd, datblygiad datganoli, Rhyfel Irac, newid hinsawdd, cyni, refferendwm yr UE, Mae Bywydau Du o Bwys, a Covid-19 - sy’n cael ei drafod yn y gyfres newydd, ‘Breathing Freely: Possibilities for a PostPandemic Society’.
Wrth edrych y tu hwnt i Gymru cyhoeddwyd erthyglau yn cysylltu Cymru â chenhedloedd Ewropeaidd eraill heb wladwriaeth, o erthygl Sartre am Dreialon Burgos a hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, i waith awduron o’r Alban, Llydaw, Catalonia, Cernyw a Gogledd Iwerddon.
A thu hwnt i Ewrop rhoddwyd llwyfan i awduron o wledydd ôl-drefedigaethol ledled y byd fel India, Camerŵn, Irac a Chwrdistan.
Bellach mae Planet wedi tyfu i fod yn fwy na chylchgrawn. Ers 2009 cyhoeddwyd ysgrifau nodwedd, podlediadau a fideos amserol ar Planet Extra ar-lein, ac yn 2016, lansiwyd Planet Platform - gofod ar-lein i gyhoeddi gwaith gan fyfyrwyr a gafodd eu mentora gan y cylchgrawn i ysgrifennu testun i’w gyhoeddi.
Bydd digwyddiadau a fwriadwyd i ddathlu’r hanner canmlwyddiant ddiwedd eleni yn cael eu cynnal y flwyddyn nesaf.