Y Cymro

Ydi, mae’r ‘Gwyddonydd’ yn newid yr hen gêm hyfryd am byth

Edmygu dyn sy’n siglo’r seiliau a chwalu’r drefn arferol...

- Gan Dylan Ebenezer

Pwy sydd wedi clywed am Bryson DeChambeau?

Mae’i enw yn swnio fel hoover sy’n chwistrell­u siampên (sydd yn syniad campus).

Ond chwaraewr golff yw’r dyn dan sylw. Chwaraewr golff sydd yn newid y gêm bob tro mae e’n camu ar y cwrs.

Dwi ddim yn chwarae golff ond fe alla i wylio’r goreuon am oriau. Mae rhywbeth hypnotig am y gêm. Fel arfer.

Mae DeChambeau yn siglo’r seiliau ac yn chwalu’r hen drefn.

Roedd ei fuddugolia­eth ym Mhencampwr­iaeth Agored America yn ddiweddar yn benllanw trawsnewid­iad llwyr i’r gŵr o Galifforni­a.

Achos nid golffiwr cyffredin mohono - ond Swper Golffiwr.

Mae golff yn hen gêm hyfryd - ond yn henffasiwn hefyd. O edrych o bell does dim llawer wedi newid ers canrifoedd. Taro pêl fach wen mor bell ag sy’n bosib cyn ceisio ei suddo yn y twll.

Ond yn dawel bach mae technoleg wedi trawsnewid popeth, wrth gwrs. Ac mae DeChambrea­u wedi cymryd hynny i lefel hollol wahanol.

‘Y Gwyddonydd’ yw ei ffugenw ac mae hynny oherwydd y modd y mae e wedi dadansoddi pob elfen o’r gêm er mwyn cyrraedd y brig.

Yn 15 oed dechreuodd astudio llawlyfr Homer Kelly ‘ The Golfing Machine,’ sydd yn esbonio yn fanwl sut mae adeiladu eich ‘ swing’.

Yn draddodiad­ol mae ffyn golff o faint gwahanol - rhai yn hirach na’i gilydd - penderfyno­dd Bryson mai rwtsh oedd hynny a thorri pob un yr un hyd.

Mae hynny yn galluogi i bob ergyd fod yr un peth.

Mae’n socian y peli mewn dŵr a halen er mwyn darganfod y man canol - craidd disgyrchia­nt - ac wedyn yn marcio pob pêl er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddo daro’r ‘man melys’.

Ma’ fe hyd yn oed wedi dysgu ei hun i ysgrifennu am yn ôl gyda’i law anghywir er mwyn gwella ei sgiliau motor niwron!

Edrychwch ar ei lofnod - mae fel tase’n cael ei adlewyrchu mewn drych.

Ac yn fwy diweddar daeth trawsnewid­iad arall. Ar ôl ailadeilad­u ei gêm - mae hefyd wedi ailadeilad­u ei gorff. Yn ystod y cyfnod clo bu’n gweithio’n galed yn y gampfa - yn codi pwysau - ac yn cynyddu pwysau ei gorff yn sylweddol.

Erbyn hyn mae’n taro’r bêl yn bellach na phawb arall ac yn bwyta cyrsiau golff i frecwast. Dim fe yw’r unig un sy’n taro’r bêl yn bell - mae’r criw cryf newydd yn bygwth dyfodol y gêm gan fod y cyrsiau traddodiad­ol yn rhy fach.

Doedd yr hen bennau ddim yn poeni llawer am hyn cofiwch. Y teimlad oedd bod modd paratoi’r cyrsiau er mwyn rhwystro’r cewri. Sicrhau bod y chwaraewyr â’r sgiliau traddodiad­ol yn disgleirio. Dangosodd DeChambeau ar gwrs Winged Foot - un o’r cyrsiau mwyaf anodd – nad oedd unrhyw beth yn mynd i’w stopio.

Nawr ac yn y man mae cymeriad yn ymddangos sydd yn newid y byd chwaraeon.

Er gwell neu er gwaeth.

Y teimlad yw bod Bryson DeChambrea­u yn mynd i newid golff am byth.

 ??  ??

Newspapers in Welsh

Newspapers from United Kingdom