Mae’r dewin yn ei ôl!
Fel gŵyr pawb erbyn hyn… mae’r anhygoel Gareth Bale wedi dychwelyd i’w gyn glwb, Tottenham Hotspur, ar fenthyg. “Mae’n braf bod yn ôl. Mae’n glwb mor arbennig i mi. Dyma lle gwnes i fy enw,” meddai.
Gadawodd y chwaraewr 31 oed Spurs yn 2013 ac mae wedi sgorio mwy na 100 o weithiau ac ennill sawl tlws yn ystod saith mlynedd wych yn Real Madrid. Er gwaethaf blwyddyn anodd, mae Bale wedi cael gyrfa anhygoel yno.
Ennillodd bedwar teitl Cynghrair y Pencampwyr, gan sgorio mewn dwy rownd derfynol. Yn 2018, fe aeth i mewn i’r ornest fel eilydd yn y 61fed munud a sgorio dwy gôl mewn buddugoliaeth derfynol 3-1 yn erbyn Lerpwl. Ei gôl gyntaf oedd y cic drosben syfrdanol.
Gyda Cymru Yn Ewro 2016 yn Ffrainc, sgoriodd gic rydd yn yn erbyn Slofacia, gan helpu ei wlad i sicrhau buddugoliaeth o 2-1, a’i buddugoliaeth gyntaf mewn twrnamaint ers 58 mlynedd. Ac wedyn sgoriodd wrth i Gymru gyrraedd eu rownd gynderfynol gyntaf erioed.
Dywedodd Prif Weinidog y DU ar y pryd, David Cameron, fod Cymru wedi ‘ysbrydoli’r genedl ac wedi gwneud Prydain yn falch’.
Mae Bale wedi sgorio 33 o weithiau dros ei wlad a daeth yn brif sgoriwr ym mis Mawrth 2018, ar ôl hat-tric yn erbyn China.
Bellach yn gapten ar y tîm cenedlaethol, fe arweiniodd Gymru i Ewro 2020 sydd rŵan wedi’i ohirio tan 2021 oherwydd y pandemig.