Teyrngedau i’r awdur a’r sgriptiwr Dafydd Huws
TALWYD teyrngedau i Dafydd Huws, un o ddychanwyr gorau Cymru fu farw yr wythnos diwethaf ym Mhenarth wedi salwch yn 70 oed. Yn frodor o Lanberis ef a greodd un o gymeriadau gorau ffuglen Gymraeg, sef Goronwy Jones, neu’r ‘Dyn Dŵad.’
Roedd hefyd yn sgriptiwr teledu, gan gynnwys y gyfres sebon boblogaidd ‘Pobol y Cwm.’
Cyn troi ei law at ysgrifennu’n llawn amser gyda’r BBC bu’n athro Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Illtyd Sant yng Nghaerdydd.
Dywedodd Lefi Gruffudd, Golygydd Cyffredinol Y Lolfa: “Dafydd Huws oedd un o awduron disgleiriaf Cymru.
“Roedd hi’n bleser cydweithio ag e a chyhoeddi rhai o glasuron Y Dyn Dŵad yng nghymeriad y Cofi eiconig Goronwy Jones.
“Disgrifiwyd ‘Un Peth Di Priodi, Peth Arall di byw,’ ei ail lyfr, fel un o’r nofelau doniolaf i gael eu cyhoeddi yn y Gymraeg erioed.
“Roedd yn awdur crafog, hynod ddoniol, ac athrylithgar weithiau wrth dynnu blewyn o drwyn y dosbarth canol Cymraeg.
“Roedd yn wych gweld atgyfodiad y Dyn Dŵad ar ôl sefydlu’r Cynulliad wrth gyhoeddi ‘Walia Wigli’ - a da oedd i’r Dyn Dŵad gael lle ar lwyfan y Babell Lên yn ddyddiol yn Eisteddfod Caerdydd ar ddechrau’r mileniwm.”
Ychwanegodd Nest Gwenllian Roberts, cynhyrchydd Pobol y Cwm: “Am gyfnod o dros chwarter canrif bu Dafydd yn awdur ar Bobol y Cwm ac roedd y gyfres yn agos iawn at ei galon.
“Rhoddodd wefr i gynulleidfaoedd dros chwarter canrif drwy ei ysgrifennu craff a chwim, a bu’n gyfrifol am rai o benodau mwyaf trawiadol ac ysgytwol y Cwm.
“Mae gennym oll atgofion melys iawn o Dafydd - gŵr bonheddig, pwyllog oedd bob amser yn amyneddgar a thyner.
“Bydd colled fawr ar ei ôl ond i neb yn fwy na’i deulu a’i ffrindiau ac estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf â’i wraig, June a’i ferched Catrin ac Esyllt.”
Dechreuodd ei yrfa lenyddol fel colofnydd radio a theledu Y Faner o dan yr enw Charles Huws.
Roedd ei nofelau ôl-fodernaidd a gwleidyddol Y Dyn Dŵad yn gweld Cymru drwy lygad cymeriad y Cofi Goronwy Jones. Cyhoeddwyd helyntion Gron yn gyntaf yn Y Dinesydd gan sbarduno gryn drafodaeth ymhlith Cymry Cymraeg y brifddinas.
Tra bod rhai yn pryderu am sylwedd y straeon roedd eraill yn poeni am safon yr iaith.
Cafodd ‘Dyddiadur Dyn Dŵad’ ei gyhoeddi yn 1978, a’i ddilyn gan ‘Un Peth ‘Di Priodi, Peth Arall ‘Di Byw’ yn 1990 a ‘Walia Wigli’ yn 2004.
Dafydd Huws hefyd oedd awdur ‘Sêr y Dociau Newydd’ (1994).
Cafodd ffilm Gymraeg ‘Dyddiadur Dyn Dŵad,’ wedi ei selio ar y llyfr, ei darlledu gyntaf ar S4C yn Rhagfyr 1989.
Dywedodd yr Archdderwydd, Myrddin ap Dafydd, wrth y cychgrawn Golwg: “Newyddion trist ydi clywed am golli Dafydd Huws. Roedd yn arwr cynnar i’m cenhedlaeth i oherwydd ei sylwadau crafog a dychanol dan yr enw ‘Charles Huws’ yn ei golofn ar Radio a Theledu yn Y Faner ddegawdau yn ôl.
“Roedd ganddo ddawn i roi pin yn swigen pwysigion y sefydliadau Cymraeg a Chymreig. Yr un ddawn frathog sydd ar waith yn y gyfrol Dyddiadur Dyn Dŵad, a ymddangosodd fel cyfres o ysgrifau’n gwneud sbort am ben ein culni a’n rhagfarnau ym mhapur bro Caerdydd, Y Dinesydd, nes iddo gael ei wahardd o’i dudalennau.
“Sgwennwr proffesiynol Cymraeg oedd Dafydd, ac enillodd ei barch tuag at ei grefft ymhopeth yr oedd yn ymwneud ag o statws i’r alwedigaeth honno yng Nghymru.
“Ond nid dychan er mwyn dychan yr oedd o – roedd egwyddorion cymdeithasol, gwleidyddol a Chymreig y tu ôl i’w gynnyrch, ac anelu at Gymru well a Chymry callach oedd ei nod.”