Bangor Mail

Edrych yn ôl ar gymeriadau’r Cwm drwy lygaid yr actorion

-

PWY sy’n cofio diwrnod cyntaf Hywel Llywelyn yn yr ysgol neu ei berthynas danllyd gyda Beth? Ydych chi’n cofio Cassie yn achub Beryl ei mam drwy ymosod ar Steffan, ar ôl iddo drywanu Teg a’i ladd? A phwy all anghofio Garry yn gadael Dani wrth yr allor i fynd i achub Sheryl?

Cewch chi fwynhau’r golygfeydd bythgofiad­wy yma a llawer mwy gyda chyfres arbennig o raglenni sy’n edrych yn ôl ar uchafbwynt­iau - a sawl isaf bwynt! - yn hanes rhai o’n hoff gymeriadau Pobol y Cwm, trwy lygaid yr actorion sydd yn chwarae’r rhannau.

Y cymeriadau sy’n cael sylw yw Hywel Llywelyn (Andrew Teilo), Garry Monk (Richard Lynch), Cassie Morris (Sue Roderick), Sioned Rees (Emily Tucker), Dani Monk (Elin Harries) a Dai Ashurst (Emyr Wyn).

Bydd chwe phennod i gyd yn darlledu ar Ddydd Mawrth a dydd Iau am dair wythnos. Mae’r gyfres yn cymryd lle’r rhaglenni Pobol y Cwm arferol wedi i’r ffilmio ddod i ben dros dro oherwydd cyfyngiada­u Covid 19.

Pobol y Cwm: Hywel fydd yn dechrau’r gyfres nos Fawrth nesaf gydag Andrew Teilo yn edrych yn ôl ar ei gymeriad Hywel Llywelyn Casanova Cwmderi - sydd bellach yn ddyn busnes llwyddiann­us a chynghoryd­d sir parchus.

Mae Andrew Teilo wedi chwarae rhan Hywel Llywelyn ers bron i 30 o flynyddoed­d - felly, roedd digon o ddewis o glipiau archif.

“Dechreuais i ar Pobol y Cwm yn gynnar yn 1991 felly rwy’n tua chwe mis i ffwrdd o’r 30 blynedd.

“Rwy’ wedi cael fy siâr o straeon da iawn sydd wedi ennyn lot o ymateb a, fel actor, dw i’n falch iawn o hyn a dyna beth sydd wedi cadw fi’n driw i Pobol y Cwm.

“Os yw’r cymeriad yn amlddimens­iynol, mae hyn yn cadw diddordeb yr actor. Cymeriad sy’n gyrru a chreu sefyllfa - dyna beth sy’n gyffrous fel actor,” meddai Andrew.

Mae Hywel yn cael ei nabod fel ‘Casanova’r Cwm’ - mae e wedi bod yn briod bedair gwaith gyda Stacey, Ffion, Sheryl a Gaynor.

“Mae wedi cael sawl swydd gan gynnwys athro, perchennog clwb nos, cynghorydd ac escort.

Ydy Andrew yn meddwl bod ei gymeriad Hywel wedi aeddfedu neu newid dros y blynyddoed­d?

“Ydw a nadw,” meddai, “Mae’n trio ei orau i fod y dyn yr oedd e pan yn ifainc.

“Mae elfen o narcissism yn perthyn i Hywel ond mae rhaid iddo dderbyn ei fod e’n tyfu’n hŷn a bod y ffordd mae pobol eraill yn ei weld e yn newid.”

Dywedodd Andrew fod e’n anodd iawn iddo ddewis ei hoff stori yn ystod ei amser yn Pobol y Cwm.

“Maen nhw gyd wedi gofyn am wahanol bethau.

“Ond dw i wedi bod yn ffodus iawn o’r actorion rwy’ wedi gweithio gyda dros y blynyddoed­d yn enwedig yr actoresau sydd wedi bod yn chwarae ‘love interest’ Hywel.

Dod i’r Cwm yn achlysurol gyda’i gŵr Teg i weld ei gefnder, Glan, a Mrs

Mac oedd Cassie )Sue Roderick) ar y dechrau.

Mae Cassie wedi cael sawl affêr dros y blynyddoed­d - Eddie Lewis, Rod, Huw a Dic Deryn yn eu plith.

Darganfu Cassie ei bod hi’n feichiog gyda phlentyn Huw sef Mai.

Dychwelodd Mai yn 2020 (neu Em erbyn hyn) a darganfu Cassie bod Em yn an-neuaidd.

Wedi deuddeg mlynedd o saib dychwelodd Cassie i’r Cwm i wasgaru llwch Mrs Mac.

Gŵr Diane, tad DJ ac wrth gwrs brawd mawr Dic Deryn yw Dai ‘Sgaffalde’ Ashurst (Emyr Wyn).

Adeiladwr a sgaffaldŵr oedd Dai pan ddaeth i’w Cwm am y tro cyntaf.

Bron ddeunaw mlynedd yn ddiweddara­ch roedd Dai yn nôl, ac yn rhedeg Y Bull yn Llanarthur.

Sefydlodd Dai a Diane gwmni adeiladau a glanhau gyda Brandon - ABD, ar ôl marwolaeth Brandon mi brynodd Jim Probert siâr yn y busnes a daeth yn APD.

Nid oes gan Dai ofn dweud ei farn, mae’n gymeriad plaen ei dafod ond yn y bôn mae ganddo galon fawr. ‘Crickey Moses,’ ‘gronda Ffaro’ a ‘poppycock’ yw rhai o ymadroddio­n enwocaf Dai.

Bydd Andrew, Sue ac Emyr a’r cymeriadau eraill yn sôn mwy am ei cymeriadia­u a’i brofiadau yng Nghwmderi yn Pobol y Cwm am 8pm nos Fawrth a nos Iau o Mehefin 23 ar S4C.

 ??  ?? ■ Andrew Teilo yw Hywel ar Pobol y Cwm
■ Sue Roderick
■ Andrew Teilo yw Hywel ar Pobol y Cwm ■ Sue Roderick

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom