HANES AWDURON LLYFR MAWR Y PLANT YN AWR ARLEIN
MAE un o glasuron llenyddiaeth plant Cymru yn parhau i ysbrydoli pobl ifanc a’r genhedlaeth hyn wrth i hanes ‘Llyfr Mawr y Plant’ fod yn destun cyhoeddiad newydd sydd ar gael fel e-lyfr.
Traddodwyd darlith Goffa Dafydd Orwig yn Llyfrgell Dyffryn Ogwen llynedd, mewn cydweithrediad gyda Llyfrgelloedd Gwynedd a Phartneriaeth Ogwen. Testun y ddarlith oedd ‘JO, JJ, J. Glyn, Jennie a Bob – cyfeillach ddiwylliannol ym Methesda 1924-40’ a chafodd ei thraddodi gan Dr John Ll. W.
Williams.
Mae’n mynd ati i drafod sut y cafodd cymeriadau fel Wil Cwac Cwac a Siôn Blewyn Coch eu datblygu.
“Yn garedig iawn, cytunodd Dr Williams i fynd ati i ysgrifennu’r ddarlith ar gyfer ei chyhoeddi, ac rydym yn hynod ddyledus iddo am ei waith yn paratoi’r testun, ac am rannu nifer o luniau teuluol gyda ni i’w cynnwys, sy’n ychwanegu at hyfrydwch y ddarlith arbennig hon.
“Mae John Ll. W. Williams, wrth gwrs, yn fab i J.O. Williams, ac fe fu’n barod iawn i rannu llawer o luniau teuluol i’w cynnwys yn nhestun y ddarlith.
“Mae cyfraniad y cymeriadau yn nheitl y ddarlith yn aruthrol i ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru, ac yn benodol i’w llenyddiaeth plant. Ceir yma hanes difyr, hynod ddarllenadwy am y cyfeillgarwch rhwng y pump, y gymuned yn Nyffryn Ogwen yn y cyfnod, a’r dylanwadau a fu ar J.O Williams.
“Heb bobl fel J.O Williams a Jennie Thomas, ni fyddai rhai o gymeriadau eiconig plentyndod nifer o blant
Cymru yn bodoli, gan mai rhwng cloriau Llyfr Mawr y Plant yr ymddangosodd cymeriadau poblogaidd fel Siôn Blewyn Coch a Wil Cwac Cwac am y tro cyntaf. Yn wir, ceir cipolwg ar yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Siôn Blewyn Coch, gyda llun hyfryd o Mic y llwynog, y bu J.O Williams yn ei gadw fel anifail anwes,” meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd.
Nid clawr gwreiddiol cyfrol gyntaf Llyfr Mawr y Plant ydi clawr y ddarlith, ond fersiwn gyfoes - cyd-ddigwyddiad ffodus oedd i Wasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd gynnal cystadleuaeth adeiladu cymeriadau llyfr allan o Lego eleni. Yr enillydd oedd Mared Williams o Rostryfan gyda’i hail-gread o glawr Llyfr Mawr
y Plant, ac yn arwydd pellach efallai o hirhoedledd ac apêl Llyfr Mawr y Plant i genhedlaeth newydd o blant Cymru!
Mae’r ddarlith erbyn hyn wedi ei huwchlwytho fel e-lyfr ar safle Borrowbox Llyfrgelloedd Gwynedd. Manylion pellach arlein gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell