Disgyblion y Garnedd wedi gwirioni â’u hysgol newydd
MAE adeilad newydd cyffrous Ysgol y Garnedd wedi agor ei drysau yr wythnos ddiwethaf ac mae’r disgyblion yn falch iawn o gael eu haddysgu yn yr adeilad o safon uchel.
Dywedodd Pennaeth Ysgol y Garnedd, Llion Williams: “Mae heddiw yn ddiwrnod arbennig i holl rhan-ddeiliad Ysgol Y Garnedd. Mae’r ysgol wedi bod yn darparu addysg a phrofiadau o’r safon uchaf dros y blynyddoedd diwethaf mewn amgylchiadau ffisegol anodd iawn. Er bod yr hen adeilad yn gartrefol ac yn gyfarwydd, nid oedd yn ddelfrydol i ddiwallu anghenion addysg yr unfed ganrif ar hugain.
“Mae’r disgyblion, staff a Llywodraethwyr yn edrych ymlaen yn arw ar gyfer y cyfnod cyffrous nesaf o symud i adeilad newydd Ysgol Y Garnedd, ac mae’r disgyblion yn edrych ymlaen i ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd sydd wedi eu henwi ar ôl mynyddoedd adnabyddus Eryri. Mae’r athrawon yn edrych ymlaen yn fawr i fanteisio ar yr adnoddau gwych megis ystafell gerdd bwrpasol, ystafell goginio, campfa a neuadd.
“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi gwireddu’r freuddwyd yma ac hynny wedi ei gyflawni ar adeg mor heriol. Edrychwn ymlaen i gael darparu addysg a chreu profiadau byth gofiadwy i blant Ysgol Y Garnedd.”
Ariannwyd yr ysgol newydd ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Rhaglen Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru fel rhan o brosiect gwerth £ 12.7 miliwn i adolygu addysg gynradd ym Mangor. Yn ogystal ag Ysgol y Garnedd sydd newydd ei hadeiladu, mae Ysgol y Faenol sydd gerllaw yn cael ei hymestyn a’i hadnewyddu fel rhan o’r un prosiect, a dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn gynharach yn y flwyddyn.
Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Rwy’n falch iawn ein bod ni, trwy’r Rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif, wedi gallu cefnogi datblygiad Ysgol y Garnedd, a hefyd yr ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Bangor.
“Mae’n bwysig, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, ein bod yn darparu’r amgylchedd ddysgu orau i’n plant, lle mae gan staff y cyfleusterau gorau i gefnogi eu dysgwyr.
“Mae Ysgol y Garnedd yn amlwg yn gwneud hyn a mwy, gan sicrhau bod gan blant ifanc yr ardal lwyfan cadarn i ysbrydoli a meithrin eu gallu, fel eu bod yn cael cyfle i gyrraedd eu nodau.
“Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â’r prosiect hwn am ei gyflawni’n amserol, yn enwedig yn yr amseroedd anodd hyn, a dymunaf y gorau i Mr Williams, ei staff a’r holl blant yn yr adeilad newydd gwych hwn.”
Ychwanegodd Y Cynghorydd Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd: “Mae wedi bod yn bleser pur gweld cynnydd y prosiect hwn, ac mae’r canlyniad yn wych. Mae’n glir y bydd plant Ysgol y Garnedd yn elwa’n fawr o’r cyfleusterau modern hyn.
“Mae Ysgol y Garnedd yn enghraifft o’n huchelgais i wella adnoddau ac adeiladau i greu amgylchedd ddysgu o’r ansawdd gorau posibl a datblygu ein hysgolion yn sefydliadau sy’n ganolog i weithgaredd cymunedol.”
Cafodd y disgyblion fynd i weld yr ysgol newydd cyn hanner tymor am y tro cyntaf – nid oedd hyn wedi bod yn bosib ynghynt oherwydd y cyfyngiadau COVID yn ystod y cyfnod adeiladu.
Dywedodd Hanna, disgybl ym mlwyddyn 6: “Pan aethom ni i’r ysgol newydd am dro roedd o’n arbennig. Mae’r dosbarthiadau yn enfawr i gymharu a’r hen ysgol. Rydw i yn edrych ymlaen yn fawr at gychwyn yna. Enw fy nosbarth i yw ‘Yr Wyddfa’. Dwi mor gyffrous.”
Ychwanegodd Cara, hefyd ym mlwyddyn 6: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr iawn i gael mwy o le yn yr ysgol newydd i gymharu efo’r hen ysgol. Mae’r ysgol newydd yn fodern ac yn llawn lliw a dwi’n ysu i gael mynd yno i ddysgu ac eistedd yn fy ystafell ddosbarth newydd.”
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roedd cyfuniad o’r galw cynyddol am leoedd yn Ysgol y Garnedd ynghyd â’r ffaith fod yr adeilad wedi dyddio yn golygu nad oedd yr adeilad bellach yn addas i bwrpas.
Mae gan yr ysgol newydd gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n addas fel amgylchedd addysgu a dysgu’r 21ain ganrif gan gynnwys ystafell gerddoriaeth, y tu allan i’r ystafell ddosbarth a neuadd gymunedol aml-ddefnydd gyda lle i 420 o ddisgyblion.
Fe ddywedodd Sara, disgybl ym mlwyddyn 5: “Dwi’n edrych ymlaen i fynd i’r ysgol newydd oherwydd mae’n edrych yn fawr ac yn hyfryd. Rhywbeth arall dwi’n edrych ymlaen at weld ydi’r cwrt pêl rwyd a’r neuadd fawr i fwyta cinio ac i gael gwasanaeth bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher.”
Y contractwyr y tu ôl i’r gwaith adeiladu trawiadol yw Read Construction, a dywedodd Richard Smart, Rheolwr Contract: “Mae’r tîm cyfan yn Read yn falch iawn o drosglwyddo’r prosiect gwych hwn i’n cleient. Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu pandemig COVID19, rydym i gyd wedi gweithio ar y cyd i ddarparu amgylchedd ysgol ragorol ar gyfer yr 21ain Ganrif ar gyfer y disgyblion, yr athrawon a’r gymuned ehangach.”