Bangor Mail

Renewable energy must benefit our communitie­s

-

MAE cyfle gwirionedd­ol i Ynys Môn elwa o’r galw cynyddol am ynni adnewyddol, ac unwaith eto rydw i wedi bod yn gwthio am fuddsoddia­d i greu cyfleon newydd, ac am gamau i sicrhau budd ein cymunedau hefyd. Rwy’n gobeithio yn arw y cawn glywed yn fuan iawn am sêl bendith i gynllun ynni llif llanw Morlais. Arloesedd sydd wrth wraidd y cynllun hwnnw dan arweiniad Menter Môn.

Ond mae rhagor o ddatblygia­dau gwynt Môr ar eu ffordd i Fôr Iwerddon hefyd, a bûm yn trafod gyda BP eu cynlluniau nhw i datblygu dwy fferm wynt – Mona a Morgan – gan ddefnyddio’r cyfle i lobïo am ddefnyddio Caergybi fel porthladd i wasanaethu’r datblygiad­au hynny. I hynny ddigwydd, byddai’r datblygwr am weld buddsoddia­d yn y porthladd, a chefais gyfle yn y Senedd ac mewn llythyr i Lywodraeth y DU yn y dyddiau diwethaf i ddadlau’r achos dros sicrhau’r buddsoddia­d hwnnw. Mae Llywodraet­h y DU wedi addo £160m i borthladdo­edd i gefnogi datblygiad­au ynni gwyrdd, ac rwyf am i Gaergybi allu elwa o’r pot hwnnw o arian. Fe wnaeth Gweinidog Economi Cymru gytuno efo fi y dylai cyfran deg o’r cyllid hwnnw fynd i Gaergybi, a byddaf yn parhau i ddadlau dros gael hynny i ddigwydd, yn cynnwys mynnu cefnogaeth Llywodraet­h Cymru i’r cynllun.

Ar yr un pryd, mae BP yn un o nifer o gwmnïau sy’n ceisio datblygu ffermiau solar ar Ynys Môn ar hyn o bryd. Gall solar chwarae rhan bwysig wrth i ni gynhyrchu mwy o ynni adnewyddad­wy, ond rwy’n bryderus am natur ac effaith gronnus yr holl ffermydd solar sydd yn y cyfnod datblygu ar hyn o bryd, a sy’n dod a ychydig iawn o fudd i’n cymunedau ni. Rydw i’n grediniol bod modd cynllunio mentrau ynni solar mewn ffordd well, drwy annog datblygiad­au cymunedol, a hybu nifer fwy o ddatblygia­dau llawer llai eu maint, er enghraifft. Ond rwyf hefyd, yn parhau i ddadlau’r achos dros gyflwyno trefn gynllunio newydd sy’n gofyn am asesiadau o fudd cymunedol o ddatblygia­dau o’r fath. Fe gyflwynais gynnig i’r Senedd ar hynny yn y dyddiau diwethaf.

Wrth deithio ar drên i’r Senedd yn y glaw yr wythnos yma rydw i’n paratoi am ddyddiau prysur eto, gyda’r sefyllfa Covid ddiweddara­f yn dal i fod yn destun cryn bryder, ond a phryderon ehangach am y gwasanaeth iechyd yn mynd a sylw hefyd. Ymhlith y pryderon hynny mae cyflwr gwasanetha­u iechyd meddwl, a chaf gyfle i amlinellu rhai o syniadau Plaid Cymru i gryfhau gwasanaeth­au.

Yr wythnos ddwetha, roedd yna gyfle i atgoffa’n hunain o’r gwaith sydd angen ei wneud yn y maes hwn, wrth i fi siarad mewn dadl wedi ei harwain gan fy ngyd-aelod, Llŷr Gruffydd AS ar wasanaetha­u iechyd meddwl yma yn y gogledd orllewin.

Galw oedd Llŷr am ryddhau adroddiad Holden yn llawn – adroddiad gwblhawyd 8 mlynedd yn ôl yn amlinellu pryderon yn uned Hergest Ysbyty Gwynedd. Mae staff yno

wedi bod yn siarad gyda fi am eu pryderon nhw, ac yn cytuno efo fi bod rhagor o ddigwyddia­dau trasig diweddar yn awgrym clir bod Llywodraet­h Cymru wedi tynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o fesurau arbennig yn rhy fuan. Byddaf yn dal i alw am y gefnogaeth mae staff a chleifion yn ei haeddu.

Os oes mater yr hoffech ei drafod efo fi neu deall fy safbwynt arno, cofiwch fod yna groeso cynnes i bawb ymuno yn fy sesiynau Facebook Live wythnosol, bob nos Lun am 18:00 - cyfle i chi rannu barn neu ofyn cwestiwn a chael ymateb uniongyrch­ol. Gallwch hefyd gysylltu efo fy swyddfa ar 01248 723599 neu ebostio rhun.apiorwerth@senedd. cymru lle byddaf i neu aelod o’r tîm ar gael i’ch cynorthwyo.

THERE is a real opportunit­y for Anglesey to benefit from the growing demand for renewable energy, and once again I have been pushing for investment to create new opportunit­ies, and for action to ensure benefits come to our communitie­s, too. I very much hope that we hear soon about the Morlais tidal stream energy scheme being approved. Innovation is at the heart of that initiative led by Menter Môn.

But further offshore wind developmen­ts are also on their way to the Irish Sea. I have been discussing with BP their plans to develop two wind farms - Mona and Morgan using the opportunit­y to lobby for use Holyhead port to serve those developmen­ts. For that to happen, the developer wants to see investment in the port, and I had the opportunit­y in the Welsh Parliament and in a letter to UK Government in recent days to argue the case for securing that investment.

The UK Government has pledged £160m to ports to support green energy developmen­ts, and I want Holyhead to be able to benefit from that pot of money.

The Welsh Economy Minister agreed with me that a fair share of that funding should go to Holyhead, and I will continue to argue for that to happen, including demanding Welsh Government support for such a scheme.

At the same time, BP is one of several companies currently seeking to develop solar farms on Anglesey.

Solar can play an important role as we generate more renewable energy, but I am concerned about the nature and cumulative impact of all solar farms that are currently in the developmen­t phase, and which bring very little benefit to our communitie­s.

I believe that solar energy initiative­s can be better planned, by encouragin­g community developmen­ts, and by encouragin­g a larger number of much smaller developmen­ts, for example.

But I also continue to argue the case for introducin­g a new planning regime that requires community benefit assessment­s of such developmen­ts. I tabled a motion to the Senedd on that in recent days.

Traveling by train to the Senedd in the rain this week I am preparing for a busy few days again, with the latest Covid situation still very worrying, but with wider concerns about the health service on the agenda too.

Those concerns include the state of mental health services, and I will have the opportunit­y in a debate to outline some of Plaid Cymru’s ideas to strengthen services.

Last week, there was an opportunit­y to remind ourselves of the work that needs to be done in this area, as I spoke in a debate led by my colleague, Llŷr Gruffydd MS on mental health services here in the northwest.

Llŷr called for the full Holden report to be released - a report completed eight years ago outlining concerns at Ysbyty Gwynedd’s Hergest unit.

Staff there have been talking to me about their concerns and agree with me that more recent tragic events are a clear indication that the Welsh Government took Betsi Cadwaladr University Health Board from special measures too soon. I will continue to call for the support staff and patients deserve.

If you have an issue that you would like to discuss with me or to hear my views on, please remember that everyone is welcome to join my weekly Facebook Live sessions, every Monday at 18:00 - an opportunit­y for you to share an opinion or ask a question and get a direct response.

You can also contact my office on 01248 723599 or email rhun.apiorwerth@senedd. cymru where I or a member of the team will be available to assist you.

 ?? ?? Solar power has an important role to play – but more must be done to ensure Anglesey communitie­s see the benefits of schemes on the island
Solar power has an important role to play – but more must be done to ensure Anglesey communitie­s see the benefits of schemes on the island

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom