Caernarfon Herald

Y fraint o gynrychiol­i Cymru allan yn Ffrainc

-

BYDD gôl-geidwad Cymru, Owain Fôn Williams yn dychwelyd i’w filltir sgwâr a dau leoliad arall sy’n arbennig iddo yn y gyfres newydd o 3 Lle.

Bydd Owain yn dychwelyd i Benygroes, lle cafodd ei fagu, ac yn trafod yr atgofion braf sydd ganddo o’r pentref a’r gôl sgaffald lle bu’n ymarfer ei sgiliau pêl-droed pan yn fachgen.

Mae’n symud ymlaen i bentref Trefor ym Mhen Llŷn, lle bu Owain a’i frodyr yn treulio sawl prynhawn yn pysgota ac ar y traeth gyda’r teulu, cyn gorffen y daith yn Inverness, lle mae’n chwarae dros glwb y ddinas yn uwch gynghrair yr Alban.

“Chwarae dros Gymru yn sicr yw uchafbwynt fy ngyrfa i hyd yn hyn, does dim byd yn dod yn agos iddo fo,” meddai Owain, oedd wedi eistedd ar y fainc am chwe mlynedd cyn cael y cyfle i chwarae am y tro cyntaf i’w wlad. “Dwi’n cofio eistedd ar y fainc yn gwylio’r gêm a phan ges i’r alwad gan Chris Coleman i fynd ar y cae, o’n i ddim yn gwybod beth i ddweud. Ers yn hogyn bach, dyma oeddwn i eisiau ei gyflawni.”

Mae Owain wedi chwarae fel gôl-geidwad i nifer o dimau gan gynnwys Crewe Alexandra, Stockport County, Rochdale ac yn ddiweddar wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda thîm Inverness Caledonian Thistle.

“Mae’r haf eleni ychydig gwahanol i’r arfer gyda Chymru yn teithio i Ffrainc ar gyfer Euro 2016 a dwi mor falch o fod yn rhan o’r daith honno. Mae hi’n gyfnod hynod o gyffrous. Maen anhygoel beth mae Cymru wedi llwyddo i greu a pha mor bell da ni wedi cyrraedd. Tro yma mae ‘na rhywbeth reit arbennig am y garfan.”

3 Lle: Owain Fôn Williams, S4C, nos Sul, 7.30pm

 ??  ?? Owain yn ei gynefin ym Mhenygroes
Owain yn ei gynefin ym Mhenygroes

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom