Caernarfon Herald

Y tîm cenedlaeth­ol yn camu i’r llwyfan mawr o’r diwedd

-

BYDD llwyddiant diweddar rhai o chwaraewyr Cymru dros eu clybiau yn hwb i hyder y garfan gyfan cyn ymgyrch Pencampwri­aeth UEFA Euro 2016, yn ôl gohebydd S4C, Catrin Heledd.

Yn ystod y tymor mae Andy King wedi ennill Uwch Gynghrair Lloegr gyda Chaerlŷr, mae Gareth Bale wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid, tra bod Wayne Hennessey a Joe Ledley wedi helpu Crystal Palace i gyrraedd rownd derfynol y Cwpan FA. Ac, yn ôl Catrin, bydd gweld eu cyd-chwaraewyr yn llwyddo ar y llwyfannau mawr yn ysbrydoli pob aelod o garfan Chris Coleman.

“Does neb yn gwybod sut mae Cymru yn mynd i ymateb i’r her yn Euro 2016. Mae’n brofiad newydd i bawb. Bydd gweld beth mae Andy King, Gareth Bale, Joe Ledley a Wayne Hennessey wedi ei gyflawni’r tymor hwn yn sicr yn hwb i hyder y garfan. Mae stori Caerlŷr yn un rhamantus, ac fe gawn ni weld os allwn ni greu stori debyg yn Euro 2016,” meddai.

Bydd S4C yn darlledu’n fyw o Stade de Bordeaux ar gyfer gêm agoriadol Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Slofacia ar ddydd Sadwrn, 11 Mehefin am 4.15 (cic gyntaf 5.00) – gyda’r gêm i’w mwynhau ar S4C HD ar SKY, Freesat a Virgin ar draws y DU.

Bydd Catrin yn gohebu o ystlys y cae ar gyfer y gêm yma.

“Yn sicr, bydd angen targedu o leiaf un pwynt o’r gêm gyntaf yma. Dw i’n gobeithio y bydd ein hamddiffyn mor gadarn â’r arfer ac y bydd Gareth Bale yn gallu creu fflach. Bydd hi’n siŵr o fod yn achlysur arbennig yn gweld y chwaraewyr yn mynd allan ac yn clywed yr anthem. Bydd yna ambell un adref, ac yn y stadiwm, yn ei dagrau dwi’n siŵr! UEFA EURO 2016 – Cymru v Slofacia: S4C, nos Sadwrn 4.15pm. Mewn HD ar Sky, Freesat a Virgin

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom