Awdures arobryn yn dewis ei thri hoff le
BYDD y llenor a’r bardd toreithiog Eigra Lewis Roberts yn mynd â ni i Flaenau Ffestiniog, Waunfawr a’i chartref yn Nolwyddelan yn rhifyn diweddaraf y gyfres 3 Lle.
Nos Sul, (19 Mehefin) bydd Eigra’n trafod pwysigrwydd Festri Capel Maenofferen ym Mlaenau Ffestiniog iddi yn ystod ei phlentyndod. Bydd yn symud ymlaen i fferm Garreg Fawr yn Waunfawr, Gwynedd lle bu’n treulio’i gwyliau haf yn ferch ifanc gyda theulu ei mam. Ei chartref a’r stydi yn Nolwyddelan, canolbwynt ei gwaith ysgrifennu, yw’r trydydd dewis.
“Yn aml fel plentyn byddwn i’n mynd ar drip Ysgol Sul i Southport neu Lerpwl ond yna, ar fy mhen fy hun, byddwn i’n mynd i ffarm Garreg Fawr yn yr hen Sir Gaernarfon,” meddai Eigra. “Byddwn i’n mynd â chês bach efo fi ac yn aros am wythnos neu am bythefnos. Wncwl Tom ac Anti Annie oedd yn byw yn Garreg Fawr. Roedd Wncwl Tom yn dysgu pobl i adrodd ac i farddoni ac mae’n rhaid felly bod hynny yn rhedeg drwy’r teulu.”
Yn ferch ifanc, byddai Eigra yn teithio ar y bws o Flaenau Ffestiniog i Borthmadog a draw i Fetws Garmon, cyn dilyn y llwybr i fferm y teulu.
“Roedd cael fy ngollwng ger fferm Garreg Fawr ar fy mhen fy hun yn rhoi’r teimlad o dyfu fyny. Ar y fferm roedd ‘na ysgubor lle bydden ni’n chwarae a blynyddoedd wedyn ro’n i’n dallt bod yr ysgubor hynny erbyn hyn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru,” meddai Eigra, sy’n un o brif awduron y Gymru gyfoes ac enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006. “Mi rydyn ni fel teulu wedi bod lawr i Sain Ffagan i weld yr hen ysgubor garreg. Anodd credu mai hwn oedd yr adeilad oedd unwaith ar fferm Wncwl Tom ac Anti Annie. Roedd ‘na ryw falchder yn y teimlad bod rhywun wedi mynd i’r drafferth o’i dynnu fesul carreg a mynd ag e lawr yna.”
Mae Eigra Lewis Roberts wedi ysgrifennu bron i 30 o gyfrolau sy’n cynnwys dramâu, straeon byrion, llyfrau i blant a nofelau i oedolion. 3 Lle Eigra Lewis Roberts: S4C, nos Sul 7.30