Caernarfon Herald

BLAENAU FFESTINIOG

-

GARETH PARRY LLOYD: Mewn Ysbyty yn Wakefield a hynny yn sydyn iawn bu farw Gareth Parry Lloyd a oedd yn enedigol o’r Blaenau yn fab i’r diweddar Owen Gwynedd Lloyd (Now Lloyd) a Gweneth Lloyd o 4, Bronddwyry­d y Blaenau ac yn frawd i Glenys. Cafodd ei addysg yn ysgolion y Blaenau lle cafodd yrfa wych yno. Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Aberyswth ac yno yn astudio Daearddiae­th ac ol derfyn ei gwrs aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Leeds yn yr adran yr Ysgol Pensaernia­eth ac arbennigo ym maes Cynllunio Trefol. Fe cafodd waith gyda Cyngor Dinas Wakefield yn Swyddog Cynllunio o 1964 hyd at 1996 yn bennaeth ar yr adran hon hyd at ei ymddeoliad.. Cyfrifid ef tn feistr ei grefft gan ei gyd weithwyr ac yn y cyfnod hwn bu iddo cyfarfod Barbara a bu iddynt briodi a chael tri o blant Peter, helen a Huw ac wedyn daeth yn daid balch i Sean, Chloe a Callum ac Isabel a Jac. Roedd Gareth yn gefnder Gweneth a Vincent ac Anwen , Cyffordd Llandudno. Roedd ganddo nifer fawr o ddiddordeb­au yn pysgota a gwyddai am yr holl lynoedd o gwmpas Stiniog ac ymhellach. ac y arddwr o fri ac yn gogydd penigamp. Fe hoffai deithio yn ol i’r Blaenau ac fe wnai hynnny yn aml i weld ei rieni ac wedi hynny yn ddarllenwr brwd ar papurau lleol ac yn aelod o Gymdeithas y Fainc Sglodion y Blaenau a bydd pawb sydd yn ei gofio yn ei golli yn fawr a cydymdeiml­ir a’i deulu yn eu colled. MRS VALMAI ROBERTS: Blaenau Ffestiniog. Dydd Iau Mehefin 23 yng Nghapel Calfaria Blaenau Ffestiniog cynhaliwyd gwasanaeth o Goffhad a diolchgarw­ch am fywyd Mrs Valmai Roberts. Roedd y gwasanaeth o dan ofal Y Parch Anita Ephraim Llan Ffestiniog ac yn gwasanaeth­u wrth yr organ yr oedd Mrs Carys Jones Blaenau Ffestiniog. Gwraig oedd yn gweld gwerth yn y pethau gorau mewn bywyd ac yn gwneud ei gorau dros eraill. Dyma yn union sut un oedd Valmai. Mae’n amlwg iddi fod yn gweld gwerth pobl a phethau a oedd yn ganolbwynt cymdeithas. Roedd yn hynod o boblogaidd drwy’r ardal.Fe’i ganed yn 1934. Roedd hi hefyd yn chwaer i Nansi. Un o blant y Blaenau oedd Valmai a glynnodd wrth ei gwreiddiau ar hyd ei hoes. Mynychodd ysgol Maenoffere­n cyn mynd i’r ysgol uwchradd yn y Blaenau. Wedi gadael yr ysgol mentrodd Valmai allan i fyd gwaith. Gweithiodd yn Cookes, yn Woolworth, yn siop Twrog, ac yna bu iddi hi a’i ffrind Maggie brynu siop chips. Bu hefyd yn gweithio ym Mryn Llewelyn hyd nes yr ymddeolodd. Roedd Valmai yn briod a Glyn ( roedd Glyn yn reolwr yn chwarel yr Oakeley) ac e’i bendithiwy­d ag un ferch Sian. Gyda threiglad y blynyddoed­d priododd Sian ac fe gawsant hefyd fab yng nghyfraith arbennig yn Kevin. Cofiwch chi roedd ei neiant a’i nithoedd hefyd yn hynod o bwysig i Valmai ac yn hynod o agos ati. Gwn innau fod Sian heddiw yn gwerthfawr­ogi’r cyfeillgar­wch a’r agosatrwyd­d yna sydd rhyngddi hi a nhw. Byddai Glyn yn aml yn dweud y gallai Valmai fod yn perthyn i’r Lame Duck Associatio­n - os oedd angen cefnogaeth ar unrhyw un neu unrhywbeth o bwys byddai Valmai yn barod i estyn ei chymorth. Gweithiodd yn galed gyda pethau fel Cyfeillion yr Ysbyty Coffa yma yn y Blaenau ac yna yn ddiweddar gyda’r pwyllgor amddiffyn i enwi ond dau beth. Gwnaethau hyn nid er clod iddi ei hun ond er lles eraill. Halen y ddaear - calon aur - dyna Valmai, halen na chollodd ei flas ond a barhaodd yn llawn effaith i’r diwedd un. Roedd yn un a oedd yn ola i gymdeithas. Byddai wrth ei bodd gyda phlant ac anifeiliai­d a hynny hefyd yn dangos i ni ei haddfwynde­r a chynhesrwy­dd ei chymeriad. Cofiwch chi roedd hwyl yn ei chwmni yn ogystal a didwylledd. Gwn nad oedd Sian am wedl heddiw yn ddiwrnod trwm a thywyll. Mae galar yn ddigon ynddoi hun. Testun dathlu a diolch sydd i heddiw am i’r byd gael benthyg a chael cwmni Valmai. Wrth siarad hefo’r teulu y diwrnod o’r blaen roedd ambell i stori ddoniol am Valmai yn cael ei chlywed. Mae’n siwr fod sawl un ohonoch chi wedi clywed y stori am y power cut yn do? Meddyliwch rwan. Un noson aeth y Blaenau i dywyllwch llwyr. Roedd y trydan wedi diffodd a’r lle fel bol buwch. Y cyfan a welsech oedd ambell i olau cannwyll hwnt ac yma. Wel, dyma Valmai yn mynd i’r drws i edrych be welai hi! Yn sydyn dyma yna olau car yn dod lawr y ffordd. Dyma na floedd ‘ Glyn, mae na olau ar y ceir ma!’ - ‘Valmai’, meddai Glyn-’ tydi rheinia ddim yn gweithio ar lectric siwr!’ Collodd ei hannwyl briod 15 mlynedd yn ol, a mawr fu’r golled honno iddi. Roedd y ddau wedi ymgartrefu yn 32 Glynllifon ar hyd y blynyddoed­d, a daeth newid byd iddi yn sgil colli Glyn. Yn araf dechreuodd ddygymod a’i cholled. Fel y dywedais gweithiodd yn galed dros wahanol achosion a pharhaodd yn gefn i’w theulu. Roedd ganddi ffrindiau da OND lle bynnag y byddai Valmai roedd Ella. Cafodd y ddwy oriau lawer o hwyl a chwerthin yng nghwmni eu gilydd. Meddyliwch am y ddwy ohonyn nhw yn gwneud arddangosf­a gosod blodau yn rhywle ac yn gorfod gwneud y cyflwyniad yn Saesneg. Roedd popeth yn mynd yn iawn hyd nes y daeth yr amser yr oedd angen gosod Mochyn coed yn yr gosodiad. Roedd y ddwy yn hollol styc - be ar wyneb daear oedd Mochyn coed yn Saesneg! A dyma ei alw yn Wood PIG nid pine cone ond Wood PIG, Son am hwyl. Do gwnaeth sawl gosodiad blodau dros y blynyddoed­d ar gyfer pob math o achlysuron. Roedd yn un o’i phrif ddiddordeb­au, Fodd bynnag erbyn tua Pasg eleni roedd arwyddion fod cyflwr ei hiechyd yn newid, ac o gam i gam yn araf dirywiodd. Yna ychydig wythnosau yn ol aeth i mewn i Ysbyty Gwynedd ac yn dawel fe ddaeth y diwedd i’w rhan. Gwn hefyd fod Sian yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth Kevin wrth gwrs. Mae’r aelwyd yn 32 Glynllifon heddiw yn wag ac yn dawel, ond erys sawl atgof melys o’r blynyddoed­d a fu - atgofion a fydd yn eich cynnal ar hyd y blynyddoed­d sydd i ddod. Gwn i chi wethfawrog­i gofal a chariad y wraig arbennig hon yr ydym heddiw yn ffarwelio a hi. Rhoddwyd ei gweddillio­n daearol I orffwyso ym mynwent Llan Ffestiniog gyda’I diweddar briod. DIGITAL DROP-IN: Digital drop-in sessions at Blaenau Ffestiniog Library, every Tuesday, 2-4pm. These sessions, led by local volunteers who have been trained by Citizens Online, are open to all, and are designed as introducti­ons to the internet. For details ring 0785469052­9. BRIDGE CAFE: 3D Jigsaw Journey. Free Exhibition - Travel round the world with these beautiful models. How many can you identify - Bridge Cafe 9am-5pm. Poetry Group - Tues 10.30am to noon. Acoustic Music Night - Thurs 7.45pm-10pm. Non-alcoholic venue. Siop Siarad - Panad a sgwrs 4th Sat of the month. IT’S A SMALL WORLD: (Old Billiard Hall), Scalextric Club Night - Up to 14s - Thurs 4pm-5.30pm £2, 14+ Thurs 6.30pm-8.30pm - £3, Vintage Players - Fri 5pm-7pm £3. ARMY CADET FORCE (ACF): Blaenau Ffestiniog ACF open every Thurs 7-9pm for young people age 12-18 years of the town and surroundin­g areas. It is a local Youth Organisati­on which aims to develop a sense of community in the cadets whilst providing fun, exciting and adventurou­s opportunit­ies. www.facebook. BlaenauFfe­stiniogPla­toon

AGE WELL: Every Wednesday at the Community Centre (near the Leisure Centre): 9.30am-4pm. Tai Chi: 10.30am-11.30am. Indoor Bowls: 11.45am-12.45am. Art (Creative Hour): noon-1pm. Gentle Chair Exercise: 1pm-2pm. Card Games: 2pm-3pm. Youth Club for the over 50s! Contact Fflur on 01286 677711 or Fflur@acgm.co.uk

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom