Caernarfon Herald

Rhedeg i dynnu sylw at dementia

-

MAE cerddor preswyl mewn canolfan gofal dementia yn anelu at osod cywair o fath gwahanol pan fydd hi’n rhedeg mewn ras i hyrwyddo gwell ymwybyddia­eth o’r cyflwr.

Bydd Nia Davies Williams, sy’n defnyddio cerddoriae­th i wella bywydau preswylwyr yng nghartref gofal Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarf­on, yn cyfnewid ei gwisg cyngerdd am ei dillad rhedeg er mwyn cymryd rhan mewn un o dair ras hwyl a drefnwyd gan y pwyllgor cymunedol lleol fel rhan o’r ymgyrch i wneud pentref cyfagos Bontnewydd yn bentref dementia gyfeillgar yn swyddogol.

Sefydlwyd grŵp Hwyl y Bont yn 2011 er mwyn helpu i ddod â’r gymuned at ei gilydd ac mae criw o 10 gwirfoddol­wr wedi bod wrthi yn trefnu rhaglen o ddigwyddia­dau rheolaidd, gan gynnwys y rasys blynyddol o amgylch y pentref.

Eleni mae’r chwe ras 5k, 10k a’r ras iau, i ddynion a merched, yn cael eu hanelu’n benodol at helpu i wneud Bontnewydd yn ardal dementia gyfeillgar ac maent wedi cael cefnogaeth swyddogol Bryn Seiont Newydd a’r perchennog Mario Kreft o sefydliad gofal Parc Pendine, sydd eisoes yn cefnogi ymgyrch Angylion Porffor i godi ymwybyddia­eth am ddementia.

Mae’r ganolfan ddwyieitho­g, a enillodd Wobr Pinders yn ddiweddar fel y cartref gofal newydd gorau yn y DU, yn darparu gofal arbenigol ar gyfer 71 o ddioddefwy­r dementia ar safle hen ysbyty cymunedol Ysbyty Bryn Seiont yn Heol Pant ger y dref ac mae wedi creu dros 100 o swyddi.

Fel rhan o’i ymrwymiad i gefnogi’r gymuned, mae wedi cytuno i fod yn unig noddwr ar gyfer y rasys, gan ddarparu tlysau i’r enillwyr ym mhob un o’r chwe chategori.

A phan fydd AC newydd yr ardal, Sian Gwenllian, yn rhoi’r arwydd i’r rhedwyr gychwyn ar eu ras am 1 o’r gloch ar brynhawn dydd Sadwrn 9 Gorffennaf, bydd Nia, 44 oed, yn eu plith yn barod i redeg yn y ras 10k.

Mae wedi bod yn gerddor preswyl yn Bryn Seiont Newydd am y flwyddyn ddiwethaf, gan ddod â blynyddoed­d o brofiad o ddefnyddio cerddoriae­th wrth ofalu am bobl â dementia i’w swydd.

Mae Nia hefyd yn gerddor o fri a ddaeth yn ail yng nghystadle­uaeth flynyddol Cân i Gymru ac sydd wedi cyfansoddi cerddoriae­th ar gyfer amryw o fandiau Cymraeg adnabyddus.

Pan fydd gwaith yn caniatáu mae Nia hefyd yn rhedwr brwd ac ers 2010 mae wedi cystadlu mewn nifer o rasys hanner marathon.

Mae hi hefyd wedi rhedeg sawl ras 10k.

“Rwy’n hoffi rhedeg dwy neu dair gwaith yr wythnos ac rwyf wedi cynllunio llwybr braf sydd yn ddolen o gwmpas yr ardal lle rwyf yn byw,” meddai.

“Mi wnes i redeg ras 10k Abersoch yn ddiweddar ac, er ei fod yn ddiwrnod crasboeth, llwyddais i gael amser parchus.

“Fel arfer rwy’n gorffen rasys 10k mewn tua 48 munud a rasys hanner marathon mewn 105 neu 106 munud.

“Pan glywais fod Bryn Seiont Newydd yn noddi rasys Hwyl y Bont eleni roeddwn yn gwybod y byddai’n rhaid i mi gymryd rhan a rhoi fy enw i lawr ar gyfer y ras 10k.

“Mae unrhyw beth sy’n helpu i godi ymwybyddia­eth o ddementia yn beth da, yn enwedig os yw’n gwneud pentref neu dref yn lle dementia gyfeillgar, felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at gymryd rhan.

“Mae rhedeg yn dda i’r meddwl yn ogystal â’r corff ac mae’n bwysig cael nod mewn golwg fel y 10k.”

Ychwanegod­d Nia, a raddiodd mewn cerddoriae­th o Brifysgol Bangor ac sy’n chwarae’r piano a’r delyn: “Rwyf wedi bod yn gweithio fel cerddor ers dros 10 mlynedd bellach, gan fynd o amgylch cartrefi gofal a chwarae cerddoriae­th ar gyfer y preswylwyr.

“Mae’n anhygoel gweld yr effaith y gall cerddoriae­th ei gael. Mae llawer o gleifion dementia wedi colli cymaint o’u hatgofion ac yn methu cofio eu geiriau pan fyddan nhw’n ceisio siarad ond unwaith rydych yn dechrau chwarae alaw sy’n gyfarwydd iddynt mi wnawn nhw ymuno yn y canu a chofio pob gair o alaw wnaethon nhw ei chlywed 50 mlynedd yn ôl. “

Wedi ei magu ym Mhen Llŷn, mae’r fam i dri o blant bellach yn byw yng Nghaernarf­on gyda’i phartner, sy’n athro cerdd ym Mhrifysgol Bangor.

 ??  ?? ● Cerddor preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Davies Williams (chwith), sy’n bwriadu rhedeg ras 10k i godi ymwybyddia­eth o dementia. Efo hi mae Amanda Jones o bwyllgor trefnu’r ras
● Cerddor preswyl Bryn Seiont Newydd, Nia Davies Williams (chwith), sy’n bwriadu rhedeg ras 10k i godi ymwybyddia­eth o dementia. Efo hi mae Amanda Jones o bwyllgor trefnu’r ras

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom