Heddlu’r Gogledd yn gwisgo camerâu fideo
HEDDLU Gogledd Cymru fydd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i roi offer fideo a wisgir ar y corff i bob swyddog rheng flaen pan fyddant ar ddyletswydd.
Cafodd y newyddion hyn ei gyhoeddi gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd newydd Arfon Jones.
Cafodd offer fideo a wisgir ar y corff, sy’n recordio tystiolaeth o droseddau wrth iddynt ddigwydd, ei gyflwyno yng Ngogledd Cymru y llynedd pan gafodd 120 o gamerâu eu dosbarthu ar draws yr ardal.
Rŵan mae Mr Jones yn cyflawni’r addewid a wnaeth yn ei ymgyrch etholiadol i sicrhau y gall pob swyddog heddlu a swyddog cefnogi cymuned yr heddlu ddefnyddio technoleg atal trosedd i daclo troseddwyr pan fyddant ar ddyletswydd Mae’n rhoi bron i £163,000 i brynu 301 o ddyfeisiadau ychwanegol i wneud cyfanswm o 421 ar draws ardal yr Heddlu.
Hefyd yn hwyrach eleni bydd rhagor o ddyfeisiadau yn cael eu prynu ar gyfer swyddogion arbenigol fel aelodau o’r tîm drylliau tanio.
Un maes lle mae’r camerâu hyn wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ydi achosion o drais domestig lle gall tystiolaeth o unrhyw anafiadau a difrod gael ei recordio yn ogystal ag ymddygiad ac ymarweddiad y troseddwr a’r dioddefwr.
Meddai Mr Jones: “Mae offer fideo a wisgir ar y corff yn gwella’r broses o gasglu tystiolaeth ac mae’n sicrhau bod mwy o droseddwyr yn cael eu heuogfarnu, yn enwedig mewn achosion o drais domestig. Mae hefyd yn helpu i ddatrys cwynion yn erbyn yr Heddlu oherwydd mae’r dystiolaeth a gofnodir ar gamera yn ddiamheuol.”