Ailagor Neuadd Pantycelyn
MAE Cyngor Prifysgol Aberystwyth wedi cymeradwyo cynlluniau i ailagor neuadd myfyrwyr Pantycelyn ac yn bwriadu bwrw mlaen gyda’r prosiect i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg ar ei newydd wedd erbyn mis Medi 2019.
Mewn cyfarfod yr wythnos dwytha, fe gymeradwyodd aelodau’r Cyngor Opsiwn B o’r cynllun dylunio a gyhoeddwyd mewn adroddiad gan Fwrdd Prosiect Pantycelyn fis diwethaf.
Bydd y gwaith cynllunio yn symud yn ei flaen nawr ac mae’r Cyngor wedi gwahodd Tîm Gweithredol y Brifysgol i gyflwyno adroddiad gerbron y Pwyllgor Cyllid ym mis Hydref yn amlinellu’r opsiynau cyllido ar gyfer y prosiect, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i ymgyrch benodol i godi arian ar gyfer Pantycelyn.
Pwysleisiodd y Cyngor bod amgylchiadau ariannol cyfredol y Brifysgol, ynghyd â’r ansicrwydd yn sgil y refferendwm a rheolau cyngor cyllido HEFCW, yn golygu bod yn rhaid sicrhau’r cyllid angenrheidol er mwyn caniatáu i’r Cyngor wneud ymrwymiad cwbl gadarn.
“Mae heddiw yn nodi cam arall ymlaen yn ein bwriad i ddarparu llety o’r radd flaenaf ym Mhantycelyn ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n dod i Aberystwyth yn y dyfodol,” meddai Cadeirydd y Cyngor a Changhellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry (uchod).
Mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn wedi bod yn cwrdd yn gyson ers mis Medi 2015 i drafod dyfodol y neuadd, gan ymgynghori’n eang gyda myfyrwyr, undebau’r myfyrwyr, staff y Brifysgol a’r gymuned.