Caernarfon Herald

Bryn Fôn yn dewis y tri lle fu’n ddylanwad arno

-

YN rhifyn ola’r gyfres 3 Lle, byddwn yn mynd ar daith gyda’r cerddor a’r actor Bryn Fôn i dri lleoliad sydd ag arwyddocâd personol iddo ef.

Ar S4C, nos Sul, 10 Gorffennaf, cawn glywed am brofiadau Bryn o fyw ym Mangor Uchaf yn ystod y 1980au a’r dylanwad gafodd y lleoliad arno fel cerddor. Yno hefyd, dechreuodd weithio fel actor theatr gyda chwmni Theatr Bara Caws.

“Yn sgil fy ngwaith i gyda Bara Caws, bues i’n byw yn Regent’s Street ym Mangor Uchaf am ddeunaw mis. Roedd hi’n adeg ddifyr iawn ar ôl treulio amser yn byw yng Nghaerdydd. Roedd y ffaith bod Bara Caws yn radical yn sicr yn atyniad i mi ac mi fues i’n gwneud amryw o sioeau iddyn nhw yn ystod y blynyddoed­d cynnar.

“Roedd hi’n gyfnod hapus iawn yn fy mywyd a dyma wnaeth ysgogi mi i ysgrifennu’r gân Mardi Gras ym Mangor Uchaf,” meddai Bryn.

“Dyma oedd y gân gyntaf i mi sgwennu ar fy mhen fy hun ac fe ddaeth y geiriau yn rhwydd iawn ryw fore dydd Sadwrn wrth i mi gychwyn drwy strydoedd Bangor. Erbyn ‘82, roedd S4C wedi cychwyn a chwmni Tir Glas yn chwilio am artistiaid newydd. Roedd bywyd yn gyffrous iawn.”

Mae Bryn Fôn bellach yn byw yn Nyffryn Nantlle ond mae ganddo atgofion melys o’i amser yn byw ym Mangor Uchaf.

Hefyd yn y rhaglen, awn i Bingley Hall, Stafford, lleoliad gig gan y Rolling Stones ym 1976. Yn ystod y cyngerdd, cafodd Bryn ei ysbrydoli i roi tro ar yrfa fel cerddor a newidiodd ei fywyd am byth.

Byddwn hefyd yn mynd i Ddulyn, lle cafodd Bryn fwy o ysbrydolia­eth greadigol mewn cyngerdd gan y cerddor o Ganada, Leonard Cohen.

3 Lle Bryn Fôn: S4C, nos Sul 7.30

 ??  ?? Bryn Fôn
Bryn Fôn

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom