Caernarfon Herald

Haf crasboeth Llinos yn dilyn campwyr Cymru

-

MAE Llinos Lee wedi cael haf a hanner hyd yn hyn yn dilyn campau rhyfeddol pêl-droedwyr a seiclwyr Cymru allan yn Ffrainc.

Ond rwan mae’n edrych ymlaen at wythnos neu ddwy yn ôl ar soffa’r sioe gylchgrawn Heno – ac am gyffro yn nes at adre yn fyw am 7pm bob nos ar S4C.

Mae’r cyflwynydd angerddol, frwd a phrysur wedi bod yn dilyn tîm pêl-droed Cymru yn yr ymgyrch Euro 2016 a seiclwyr a hyfforddwy­r ein gwlad o Team Sky yn Le Tour de France.

“Mae e wedi bod yn haf anhygoel i Gymru; mae’r tîm pêl-droed yn enwedig wedi rhoi Cymru a’r iaith Gymraeg ar y map. Mae’r ffaith bod cwmnïau mawr fel Coca Cola a Budweiser yn rhoi’r iaith ar eu nwyddau yn dangos cymaint mae Cymdeithas Bêl-droed yn parchu’r iaith ac mae’r ffaith bod y chwaraewyr yn fodlon defnyddio’r Gymraeg yn gymaint o hwb. A bues i’n ddigon lwcus i groesawu’r garfan bêl-droed yn ôl ym Maes Awyr Caerdydd ac yn croesawu’r seiclwyr buddugol i’r Champs-Élysées ym Mharis. Am brofiadau a hanner!”

Mae’r iaith Gymraeg yn un o’r pethau sy’n ysbrydoli’r cyflwynydd 36 oed, mae cyflwyno ar deledu ar S4C a radio gyda BBC Radio Wales, chwaraeon a thre’r Barri yn rhai o’r pethau eraill y mae’n eu caru.

“Dwi’n dwlu ar deithio a gweld y byd, a mynd ar wyliau yng ngogledd Cymru neu ymweld â pherthnasa­u yno, ond does dim byd i guro bod gartre’ yn y Barri. Mae’n gymuned go arbennig,” meddai Llinos, sy’n byw yn y dre’ forwrol gyda’i mab tair oed Guto Prys a’i gŵr Huw. Heno: S4C, Llun-Gwener 7pm

 ??  ?? ● Y peloton yn cyrraedd y Champs Elysee yn y Tour de France eleni (prif lun). Uchod, Llinos Lee, o dim cyflwyno Heno
● Y peloton yn cyrraedd y Champs Elysee yn y Tour de France eleni (prif lun). Uchod, Llinos Lee, o dim cyflwyno Heno

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom