Gethin yn ofni ei gysgod – Pobol y Cwm yn ôl gydag ergyd
MAE’N rhaid i Gethin fod yn wyliadwrus yn Pobol y Cwm yr wythnos hon, wedi i’r mecanig ddod wyneb yn wyneb â dyn mewn mwgwd yn ceisio cuddio corff mewn bag. Mae’r canlyniadau yn bygwth ei berthynas â Ffion.F
Wedi wythnos o saib yn ystod yr EisteddfodE Genedlaethol, mae Pobol y Cwm yn dychwelyd i S4C nos Lungyda thipyn o ergyd.
Simon Watts, sy’n wreiddiol o Rydaman,R sy’n portreadu Gethin, ac mae ei gymeriad yn cael tipyn o ysgytwad wedi iddo ganfod y corff yn y garej.
“Mae gweld corff yn y garej yn ddechrau cyfnod tywyll iawn i Ffion a Gethin. Mae e’n effeithio ar hapusrwydd eu perthynas, mae’n effeithio ar iechyd seicolegol a chorfforol Gethin hefyd.”
Mae Gethin yn darganfod pwy yw’r llofrudd – ond bydd yn rhaid i’r gwylwyr aros i weld pwy e’ neu hi. Un peth sy’n sicr yw bod Gethin yn ofni ei gysgod, wrth i’r llofrudd godi ofn arno.
Wrth i’r llofrudd geisio rhybuddio Gethin i beidio â dweud dim am y corff yn y garej, mae e’n mynd ati i’w ddychryn.
“Mae Gethin yn ymwybodol iawn ei fod e a Ffion wedi bod drwy lot yn ddiweddar, a gall pwysau i gadw’r corff yn gyfrinach, os nad ydynt yn ofalus, fod yn ddigon i ddifetha’ eu perthynas,” meddai Simon sy’n byw yng Nghaerdydd.
Ond pwy yw’r corff yn y bag? Mae Gethin yn ofni mai Garry Monk, ei frawd yng nghyfraith, sydd yno. Pobol y Cwm: S4C, Llun-Gwener 8pm