Chwysu chwartiau gyda chyfres newydd
BYDD cyfres newydd ar S4C yn rhoi gwedd gyfoes ar gampau gwledig traddodiadol hafaidd, chwyslyd a bythol boblogaidd. Bydd Chwys, a ddarlledir dros dair noson yn olynol (Mercher, 23 Awst – Gwener, 25 Awst), yn canolbwyntio ar un o dair camp wahanol ym mhob pennod; cystadleuaeth i fwyellwyr, neu lumberjacks, tynnu rhaff a chneifio.
Mae’r rhaglenni wedi eu ffilmio mewn digwyddiadau cenedlaethol ledled Cymru; o Gaerwys yn Sir Fflint, i Gorwen yn Sir Ddinbych, i dre Caerfyrddin, a bydd cyflwynydd gwahanol ymhob pennod – Sarra Elgan Easterby, Heledd Cynwal ac Elen Pencwm.
Heledd Cynwal fydd yn cyflwyno’r ail raglen sy’n dilyn hynt a helynt criw tynnu rhaff. Cawn ddilyn clwb Llanboidy, Sir Gâr a enillodd Bencampwriaeth y Byd ym 1977, wrth iddyn nhw gystadlu yn y Truckfest yng Nghaerfyrddin.
“Roedd e’n agoriad llygad i mi,” meddai Heledd. “Mae’n fwy na thynnu rhaff; yn ogystal â’r elfen gystadleuol, mae ‘na rywbeth cymdeithasol iawn am gymryd rhan – ac mae cymaint o hanes yn perthyn i glwb fel Llanboidy hefyd – fuon nhw’n bencampwyr y byd yn y ‘70au!
“Mae’r gwaith o dynnu’r rhaff mor gorfforol ac mae ‘na deimlad cryf o berthyn i dîm. Mae cymunedau a phentrefi yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac mae hynny’n beth braf i’w weld.”
Sarra Elgan Easterby fydd yn cyflwyno rhaglen gyntaf Chwys fydd yn cynnwys yr ornest eithaf i lumberjacks gorau Ewrop – Pencampwriaeth y 5 Prawf yng Ngŵyl Coed Cymru, Caerwys. Tybed a all seren Bwyellwyr Clwyd, Elgan Pugh, wneud digon ar draws y pum disgyblaeth wahanol i amddiffyn ei deitl?
Chwys: S4C, nos Fercher, Iau a Gwener 8.25pm