Trysorau’r Babell Lên i godi gwên wedi’r Eisteddfod
ROEDD Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau yn un go brysur i’r Prifardd Guto Dafydd o Bwllheli. Nid yn unig enillodd Wobr Goffa Daniel Owen am ei nofel ‘Ymbelydredd’, bu hefyd yn ymrysona, yn gwis-feistr ac yn cadeirio trafodaethau yn Y Babell Lên.
Bydd modd gwylio gwledd o lên yn ystod mis Awst wrth i’r gyfres Mwy o’r Babell Lên gychwyn nos Fawrth, 23 Awst. Yn ystod y gyfres cawn glywed sgyrsiau diddan am lenyddiaeth, cerddoriaeth a hanes; ac wrth gwrs Ymryson y Beirdd, uchafbwynt y Babell Lên i sawl Eisteddfodwr.
Er bod darllediadau o’r Babell Lên wedi bod yn ystod wythnos yr Eisteddfod, dyma gyfle i weld uchafbwyntiau estynedig sydd heb eu darlledu ar y teledu hyd yn hyn.
Bu Guto Dafydd yn byw a bod yn y Babell Lên eleni; bu’n sgwrsio am ei nofel arobryn ‘Ymbelydredd’ â’r Athro Gerwyn Williams ac yn arwain sesiynau difyr gyda ‘rocars â gwalltiau cyrliog’. Bu’n rhan o gyflwyniad i lansio’r gyfrol ‘Deugain Barddas’, ac yn cadw trefn ar ddau dîm o feirdd, a’u capteiniaid Gruffudd Antur a Llŷr Gwyn Lewis, mewn cwis newydd sbon ‘8 Allan o 10 Bardd’.
“Rhwng popeth, dwi’n meddwl ‘mod i ar lwyfan y Babell Lên chwe gwaith!” chwardda Guto Dafydd sy’n wreiddiol o Drefor yng Ngwynedd. “Dwi’n meddwl mai’r sesiwn wnes i ‘i fwynhau fwyaf oedd ‘8 Allan o 10 Bardd’. Roedd yn gyfle i brofi gwybodaeth chwe bardd am lenyddiaeth Gymraeg, ond yn bwysicach, i ddiddanu cynulleidfa drwy orfodi’r panelwyr i gyflawni tasgau gwirion. Roedd ‘na ddigon o chwerthin a chanu! Mwy o’r Babell Lên: S4C, nos Fawrth 10pm