Rownd a Rownd yn dathlu 21ain
MAE eleni yn flwyddyn fawr i’r gyfres sebon Rownd a Rownd sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 21 oed. I nodi’r garreg filltir bydd cyfle i hel atgofion, rhannu straeon a chael cip y tu ôl i’r llenni mewn rhaglen arbennig Pen-blwydd Hapus Rownd a Rownd ar S4C nos Sul 11 Medi.
Y digrifwr Tudur Owen fydd yn ein tywys o amgylch set y gyfres ym Mhorthaethwy, canolbwynt holl ddrama tref ddychmygol Glanrafon. Wrth sgwrsio gyda rhai o actorion y gyfres cawn ein diddanu wrth glywed straeon doniol, troeon trwstan ac ambell gyfrinach.
Bydd cyfle hefyd i hel atgofion gyda’r golygfeydd mwyaf cofiadwy dros y blynyddoedd – o’r swsys gorau i’r stynts mwyaf brawychus; y slapiau cas a’r ymadawiadau ddaeth â dagrau i’n gruddiau.
Un o’r actorion sydd â digon o straeon i’w rhannu yw Iestyn Garlick, sy’n chwarae rhan yr athro Jim Gym. Mae o wedi bod yn rhan o’r cast ers y gyfres gyntaf un, nôl ym 1995;
“Mae ‘na blant sy’n actio yn y gyfres bresennol oedd heb eu geni pan ddechreuais i yma!” meddai Iestyn. “Ac mae sawl un ‘da ni wedi ei gweld yn tyfu fyny ar y gyfres wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd actio llewyrchus iawn.”
Yn eu plith mae Owain Arthur, actor a gafodd lawer o sylw yn serennu yn y ddrama lwyfan One Man Two Guvnors yn y West End, cyn teithio’r byd yn perfformio’r sioe. Hefyd Iddon Alaw sydd newydd ymuno â chast y sioe gerdd Wicked ar daith o amgylch theatrau ar hyd a lled Prydain.
Un arall sydd wedi tyfu fyny ar y gyfres yw Ffion Medi. Mae’r actores 21 oed o’r Felinheli wedi chwarae rhan Dani ers 2001 pan roedd hi’n 7 mlwydd oed:
“Dw i’n andros o lwcus,” meddai Ffion,. “Dwi’n teimlo mod i wedi cael ail deulu efo criw Rownd a Rownd. Ar y dechrau roedd cadw fyny efo gwaith ysgol yn anodd weithiau, ond nes i ddod i arfer efo hynny ac roedd yn brofiad anhygoel gweithio gydag actorion profiadol. Dwi wedi bod mor lwcus efo storïau dw i wedi ei gael dros y blynyddoedd.”