Caernarfon Herald

Cyngor i ddisgwyl yr annisgwyl efo Rhys

-

DISGWYLIWC­H yr annisgwyl. Dyna’r cyngor wrth i gyfres newydd – Deuawdau Rhys Meirion – gychwyn ar S4C.

Mi fydd hi’n dipyn o her i Rhys a’i westeion wrth i’r canwr clasurol ganu deuawdau gydag unigolion o wahanol gefndiroed­d cerddorol o jazz i fiwsig gwerin a phop.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y canwr opera a chlasurol byd-enwog yn mynd ar daith ledled Cymru i ddod i adnabod rhai o’n hartistiai­d cerddorol mwyaf poblogaidd.

Yn rhaglen gynta’r gyfres, bydd Rhys yn mynd â ni ar daith i Gaerdydd i gartref y canwr a’r cyfansoddw­r Huw Chiswell ac yn rhoi tro ar ganu un o glasuron Huw, Rhoddion Prin ymhlith caneuon eraill.

“Pan mae rhywun yn mynd drwy amser anodd, fel y mae pawb yn gwneud mewn bywyd, mae cerddoriae­th yn gallu helpu gymaint. Pan dwi wedi gwrando ar y gân Rhoddion Prin yn y gorffen- nol, mae’r geiriau, yn enwedig y pennill olaf yna, yn emosiynol tu hwnt,” meddai Rhys, sy’n wreiddiol o Dremadog ond bellach yn byw yn Rhuthun gyda’i wraig a thri o blant.

“Efo colli fy chwaer a cholli Mam dros y blynyddoed­d diwethaf, yn aml iawn mae rhywun yn cael cryfder i ddod drwyddi drwy’r plant. Ro’n i’n medru uniaethu llawer iawn efo’r gân yna a’r geiriau.”

Yn y bennod gyntaf, bydd Rhys a Huw yn canu deuawd arall hefyd.

“Roedd un o’r caneuon ddewisais i ganu efo Huw Chiswell yn dipyn o sialens! Yn gyntaf, mae Gira Con Me yn gân glasurol – genre hollol wahanol i beth mae Huw wedi arfer â chanu, ac wrth gwrs, mae’r geiriau i gyd yn Eidaleg. Fe ddaeth yr iaith yn ddigon cyflym i Huw erbyn y diwedd ond mi roedd hi’n dipyn o sialens rhaid dweud – ond dwi’n falch iawn o’r ddeuawd honno.” Deuawdau Rhys Meirion: S4C, nos Wener 9.30

 ??  ?? Rhys Meirion ar ei deithiau
Rhys Meirion ar ei deithiau

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom