Gillian Elisa yn ceisio deall ein perthynas efo’n cŵn
EFALLAI mai’r ci yw ffrind gorau dyn – ond beth am y perchnogion cŵn sy’n dwlu ar eu hownds ffyddlon?
A ydynt yn gall i fod yn llawen yng nghwmni’n ffrindiau pedair pawen neu’n mopio gormod wrth weld cynffon yn siglo a thafod yn llyfu?
Mewn rhaglen dwymgalon, mae’r actores adnabyddus a seren y West End, Gillian Elisa Thomas, yn ceisio deall pam ein bod yn caru ein cŵn anwes cymaint.
Ond mae ei chwest personol i gwrdd â chymaint o garwyr a pherchnogion cŵn ag sy’n bosibl yn y rhaglen Pobol y Cŵn yn troi’n daith emosiynol iawn lle mae’n wynebu profiadau anodd, annisgwyl. Byddwn yn gweld sut dro fydd yn y cwt yn y rhaglen nos Sul.
“Rwy’ wrth fy modd gydag anifeiliaid, ond mae rhywbeth arbennig am gŵn. Mae fy nghŵn fel teulu i mi ac ni alla i ddychmygu bywyd hebddyn nhw. Rydyn ni’r Cymry yn enwog am ein cariad at gŵn; mae cŵn wedi siapio ein tiroedd ni ac wedi cynhesu ein calonnau ers cyn cof,” meddai Gillian, sydd wedi serennu yn y West End yn y sioe gerdd Billy Elliot.
“Rydyn ni fel perchnogion cŵn yn amrywio o ran maint a siâp yn union fel ein cŵn ac rwy’ am wybod pam mae cŵn yn gafael yn ein calonnau gymaint,” ychwanega’r actores, sydd wedi bod yn hoff o gŵn ers ei phlentyndod yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae ei chwest i ddarganfod pam mae pobol yn caru eu cŵn yn ei denu yn ôl i Gymru, ac yn arbennig at ei thref enedigol lle mae hi’n cwrdd â ffrindiau a theulu. Pobol y Cŵn: S4C, nos Sul, 8pm