Caernarfon Herald

Bwrw golwg ar rai o erddi hyfryta’ Cymru

-

BYDD y gyfres ddiweddara­f o Gerddi Cymru yn datgelu sut mae dwy o erddi hyfryta’ Cymru wedi cael eu hadnewyddu ers iddyn nhw gael eu difetha gan lifogydd y llynedd.

Cafodd gardd Cadnant ym Mhorthaeth­wy a Gardd Restredig Gradd 1 Castell Gwydir ger Llanrwst eu boddi gan lifogydd difrifol ar Ŵyl San Steffan 2015.

Yn y gyfres newydd, sy’n dechrau nos Sul, mae’r cyflwynydd Aled Samuel yn ymweld â’r gerddi yma i weld sut maen nhw wedi cael eu trawsnewid ers hynny.

“Ar fore Gŵyl San Steffan, daeth llif anferth drwy ganol Gardd Cadnant, bwrw’r wal i lawr a difetha’r ardd yng ngwaelod y dyffryn wrth i lif o gerrig a mwd ddisgyn,” meddai Aled.

“Ond fe aethon ni yna ryw dri neu bedwar mis ar ôl y digwyddiad a phrin y byddech chi’n sylwi bod unrhyw beth wedi digwydd.

“Mae Gardd Gwydir mewn sefyllfa lai ffodus, gan fod llifogydd yn effeithio arni’n fwy aml. Dyna yw natur y dyffryn ger Llanrwst. Ond roedd llifogydd y llynedd yn waeth nag arfer; mor rymus fel iddyn nhw ladd rhai o’r coed ywen. Mae’n rhyfeddol sut mae’r ardd wedi cael ei hadnewyddu mewn ychydig o fisoedd. Mae llafur cariad y garddwyr yn anhygoel.”

Yn ystod y gyfres bydd Aled yn ymweld ag amrywiaeth fawr o erddi eraill ym mhob cwr o Gymru. A bydd un rhaglen yn edrych yn benodol ar erddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Gerddi Cymru: S4C, nos Sul, 7.30

 ??  ?? ● Aled Sam yng ngerddi Castell. Picton, lle bydd yn mynd yn ddiweddara­ch yn y gyfres
● Aled Sam yng ngerddi Castell. Picton, lle bydd yn mynd yn ddiweddara­ch yn y gyfres

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom