Caernarfon Herald

DYDD SUL PRIODAS PUM MIL S4C, 8PM

-

MEWN cyfres newydd, cawn gyfle ecsgliwsif i ddilyn bywyd lliwgar y seleb Jude Cissé, y WAG o Ynys Môn, oedd unwaith yn briod â chyn bêl-droediwr Ffrainc a Lerpwl, Djibril Cissé.

Mae gan Jude dri o blant gyda’i chyn-ŵr ac mae bellach wedi ymgartrefu yn Swydd Gaer. Yn Jude Cissé: Y WAG ar Wyliau cawn ddilyn Jude o Mallorca i Crufts ac o Sioe Ffasiwn Llundain i Marrakech i gael blas o fywyd glam y WAG fydd yn agoriad llygad ar adegau i’r gwylwyr.

“Pan ro’n i’n tyfu fyny, ro’n i bob tro yn gweld pethau neis ac yn gweithio’n galed i’w cael nhw,” meddai Jude, gafodd ei magu ym mhentref Rhostrehwf­a ger Llangefni. “Dwi bob amser wedi bod yn berson sy’n hoffi pethau drud. Ond ‘nes i ddim deffro un bore a meddwl bod angen i mi fynd i ffeindio gŵr efo lot o bres. ‘Nes i weithio’n galed i gyrraedd lle rydw i rŵan.”

Byddwn yn mynd ar wyliau gyda Jude i Mallorca i dorheulo, siopa ac yfed siampen yng nghwmni ei ffrindiau wrth iddi aros mewn tŷ crand a mwynhau teithiau ar y môr ar gwch moethus.

“Dwi am fod yn onest, mae gen i ychydig o ffetish am esgidiau a bagiau drud – esgidiau Christian Louboutin yn enwedig ac esgidiau sydd â sodlau pum modfedd!” meddai Jude, sydd yn hapus iawn i ddangos rhai o’i hoff bethau yn ystod y gyfres. “Mae angen handbag ar gyfer pob achlysur ac i fynd efo pob gwisg!”

Hefyd yn y gyfres, cawn gyfle i agor cil y drws ar ei villa ecsgliwisi­f yn Marrakech lle mae cylchgrawn ‘OK’ wedi dod i wneud photo shoot arbennig gyda hi .

“Mae bywyd bob amser wedi bod yn dipyn o sialens o ran sylw gan y paparazzi, yn enwedig pan ro’n i gyda Djibril. Mi roedd o’n real seren ar un adeg,” meddai Jude, wrth drafod ei bywyd gyda’i chyn-ŵr. “Mae hi’n braf cerdded i lawr y carped coch achos ti’n teimlo’n neis ac yn gwisgo rhywbeth del. Dwi’n licio pobl yn tynnu fy llun, pwy fysa ddim? Dwi ‘di licio ers ro’n i’n hogan fach!”

Yn ogystal â thrip i Rasus Caer, byddwn yn mynd i Crufts gyda Jude wrth iddi chwilio am gi arall i gadw cwmni i’w Chihuahua wyth oed, Lily. Mae Jude hefyd yn mynd â Lily i westy moethus sy’n pampro perchnogio­n a’u cŵn, a’r dasg fwya’ yw penderfynu pa bersawr i ddewis ar gyfer y ci bach! Jude Cissé: Y WAG ar Wyliau: S4C, nos Iau, 8.25

 ??  ?? ● Jude Cissé yn paratoi ei cholur cyn mynd allan
● Jude Cissé yn paratoi ei cholur cyn mynd allan

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom