Pŵer yn trechu synnwyr cyffredin yn y Senedd?
MAE’R frwydr am bŵer ym Mae Caerdydd yn troi’n sur wrth i obsesiwn, cyfrinach a dialedd fygwth taro ambell un oddi ar ei echel. Yn gymysg â phynciau llosg sy’n rhwygo barn yn y Siambr, mae troedio’r llinell rhwng da a drwg – bywydau personol a phroffesiynol – yn her yn y gyfres newydd o Byw Celwydd.
Bydd y gyfres ddrama sydd wedi ei lleoli yng nghrochan poeth gwleidyddiaeth Cymru yn dychwelyd i S4C nos Sul, 8 Ionawr.
Cafodd Prif Weinidog Cymru, Meirion Llywelyn, ddihangfa yn ystod y gyfres ddiwethaf, wedi i’w ferch yng nghyfraith, y Golygydd Gwleidyddol pwerus Angharad Wyn ddewis peidio â datgelu iddo gamarwain y Senedd. Yn hytrach, penderfynodd ei bod am achub ei phriodas â’i gŵr Owain, gan ddatgelu ei chyfrinach fawr wrtho… bu’n butain yn Llundain, ac un o’i chleientiaid oedd Harri James – Ymgynghorydd Arbennig (SpAd) i’r Cenedlaetholwyr.
Mae Meirion Llywelyn yn ymwy- bodol bod tensiwn a chytundeb yn bodoli rhwng Angharad a Harri, ac mi fydd canfod y gwir am y ddau yma yn fêl ar fysedd y Ceidwadwr. Mae hyn yn arwain at gêm beryg rhwng y Prif Weinidog ac Angharad; wrth i’r ddau gystadlu am bŵer a dialedd. Ond ydy obsesiwn Meirion yn mynd yn drech na’r hyn sy’n gywir i’r wlad?
Mae canlyniadau ei phenderfyniad i beidio â datgelu’r gwir am Meirion yn peri tipyn o gur pen i Angharad. Yn ôl Cath Ayers sy’n portreadu’r Golygydd uchelgeisiol, mae Angharad wedi’i rhwygo rhwng ei gyrfa a’i dyletswydd tuag at ei theulu.
“Mae hi’n gyfnod anodd i Angharad. Mae hi’n gorfod profi ei hunan eto, i’w chyd-weithwyr a’i bos, ond mae hi eisiau profi i Owain ei bod hi’n driw iddo fe hefyd. Mae hi’n ceisio cadw cydbwysedd, ac mae hynny’n heriol iddi hi. Yn enwedig gan fod Owain yn stryglo i ddygymod â’r wybodaeth mae e wedi’i derbyn amdani hi,” meddai Cath sy’n wreiddiol o Abergwili ger Caerfyrddin.
Mae’r gyfres hon yn nodi cam hanesyddol, gan fod y criw cynhyrchu wedi derbyn caniatâd i ffilmio yn Siambr y Senedd am y tro cyntaf erioed. “Mae hi’n fraint bod Byw Celwydd wedi ffilmio yn y Siambr. Mae e’n rhoi statws i’r gyfres am ein bod ni’n cael ffilmio yn yr union adeilad rydyn ni’n ei bortreadu,” meddai Cath sy’n byw yng Nghaerdydd.
“Mae Byw Celwydd yn ddrama wleidyddol sy’n ymdrin â storiâu dadleuol i ni yng Nghymru, ond law yn llaw â hynny mae’r cymeriadau yn byw bywydau personol cymhleth sydd wedi gweu ynghyd i greu drama afaelgar.” Byw Celwydd: S4C, nos Sul, 9pm