Dilyn arfordir y bae mwyaf yng Nghymru
TAITH sy’n dilyn arfordir bae mwya’r wlad – o geg Afon Dwyryd ger Porthmadog hyd at dref hynafol Aberteifi – sy’n dod dan sylw Bedwyr Rees mewn cyfres newydd ar S4C.
Yn Arfordir Cymru: Bae Ceredigion, sy’n dechrau nos Sul, bydd Bedwyr yn mynd ar drywydd yr enwau, hanesion a phobl sydd yn cyfoethogi glannau Bae Ceredigion ac yn cael cyfle euraidd i fwynhau golygfeydd trawiadol ar hyd y ffordd.
“Ro’n i wedi ymweld ag arfordiroedd Pen Llŷn a Sir Benfro mewn cyfresi blaenorol ac mae’r gyfres yma’n gyfle i gau’r cylch,” meddai’r cyflwynydd Bedwyr Rees sy’n byw ar Ynys Môn.
Yn rhaglen gynta’r gyfre, bydd Bedwyr yn dechrau ei daith o’r gogledd i’r de trwy ddilyn y llwybr arfordirol o gyffiniau Afon Dwyryd hyd aber Afon Mawddach. Ar hyd y ffordd, caiff glywed rhai o hanesion lliwgar ardal Ardudwy – gan gynnwys hanes y glaswellt oedd yn cael ei gludo i stadia chwaraeon mwya’r wlad.
“Roedd siarad gyda Derwyn Evans i gael hanes codi tywyrch ar y glastraeth gyferbyn ag Ynys Gifftan yn brofiad arbennig,” esbonia Bedwyr. “Dychmygwch fod y glaswellt sy’n tyfu yno’n berffaith ar gyfer chwarae pêl ac mae’n rhyfedd meddwl bod y tywyrch o’r fan honno wedi mynd i lefydd fel Wimbledon a Wembley!”
Bydd hefyd yn ymweld ag eglwys hynafol Llandanwg ac yn cael hanes Afon Artro a thwyni Morfa Dyffryn gan Rhodri Dafydd, hogyn lleol sydd bellach yn gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru. Yna, bydd yn mynd ymlaen i’r Bermo i glywed holl gyfrinachau rhai o enwau llefydd y dref yng nghwmni John Sam Jones.
“Mae Bae Ceredigion yn rhan hyfryd o’r byd sy’n cynnwys traethau tywodlyd, porthladdoedd clyd a morydiau mawr,” meddai Bedwyr. Arfordir Cymru Bae Ceredigion: S4C, nos Sul 8.30,