Davies a’r criw yn dathlu dechrau’r Chwe Gwlad
MAE Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar fin dechrau ac mae hynny’n golygu un peth – mae Jonathan yn ôl! Gyda digon o dynnu coes, gwesteion a heriau, dyma’r ffordd berffaith i ddechrau eich penwythnos o rygbi.
Bydd y cyn-chwaraewr Cymru a’r sylwebydd Jonathan Davies yn dychwelyd i’w gadair goch ar S4C nos Wener, 3 Chwefror, cyn gêm gyntaf Cymru yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad RBS ar ddydd Sul.
Yn ymuno ag ef bydd y criw arferol – un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, Nigel Owens, ynghyd â’r cyflwynydd chwaraeon, Sarra Elgan Easterby.
Mae’r drindod yma wedi gweithio gyda’i gilydd am flynyddoedd ac yn hen gyfarwydd â thynnu coes ei gilydd. Ac mae Jonathan yn gwybod yn iawn sut i gael ymateb gan Sarra a Nigel!
“Mae hi’n hawdd tynnu coes y ddau, ond y ffordd rwydda’ i gorddi Sarra yw dweud rhywbeth am sut mae hi’n edrych,” meddai Jonathan Davies yn ddireidus. “A gyda Nigel, os bydda i’n ddweud ei fod wedi gwneud pend- erfyniad dyfarnu gwael, fe fydd e’n gandryll!”
Ond, yn ôl y cyflwynydd o Drimsaran, mae cyfres Jonathan yn cynnig llawer mwy na banter rhwng ffrindiau. “Ar ddiwedd y dydd, y peth pwysig yw bod y gynulleidfa a’r gwesteion yn mwynhau eu hunain ac yn adrodd llwyth o straeon doniol, dyna beth sy’n goron ar y cyfan,” meddai Jonathan.
Ac maen nhw wedi cael eu siâr o enwau mawr yn y stiwdio dros y blynyddoedd, o’r dewin bach Shane Williams a’r chwaraewr chwedlonol Gareth Edwards i’r cyflwynydd teledu Gethin Jones a’r actor Richard Harrington.
Mae llawer mwy i ddod yn y gyfres newydd hon, ac yn ymuno â’r tîm ar gyfer y rhaglen gyntaf mae’r canwr Aled Jones a’r actores Ffion Dafis sy’n chwarae arweinydd y Cenedlaetholwyr, Rhiannon Roberts, yn y gyfres ddrama Byw Celwydd. Jonathan: S4C nos Wener 3 Chwefror, 9.30pm