Caernarfon Herald

Dirgelwch Dolwen – 35 Diwrnod yn dychwelyd

-

MAE cyfrinacha­u a chelwyddau yn dod i’r wyneb wrth i frodyr a chwiorydd ddod ynghyd i daenu llwch eu mam, Mair ac i drafod dyfodol y cartref teuluol. Croeso i Dolwen – hen dŷ mawreddog sy’n lleoliad i’r gyfres newydd o’r ddrama ddirgel 35 Diwrnod.

Dyma’r drydedd gyfres o 35 Diwrnod, sydd wedi ei hysgrifenn­u gan yr awdures Siwan Jones.

Dros gyfnod o 35 diwrnod, mae tyndra a thristwch chwerw yn datblygu o fewn waliau’r hen ffermdy, sydd yn y pendraw yn arwain at farwolaeth Ifan, brawd ieuenga’r teulu sy’n cael ei chwarae gan yr actor Gwydion Rhys.

Dydi teulu fferm Dolwen ddim wedi bod o dan yr un to ers dathlu pen-blwydd eu diweddar dad Gwyndaf, bum mlynedd ynghynt. Bydd sawl breuddwyd yn chwalu’n deilchion wrth i’r plant amau bod eu hewythr Huw wedi dwyn perswâd ar eu mam i newid ei hewyllys. Wrth iddyn nhw ei herio a mynnu cael y tir yn ôl, mae trais a chenfigen yn taflu cysgod tywyll dros fferm Dolwen.

“Doeddwn i ddim am wybod pwy oedd yn gyfrifol am lofruddio Ifan tan y funud olaf,” meddai Gwydion Rhys, sy’n dod o Felinfach, Bro Preseli ac yn wyneb cyfarwydd ar gyfresi drama fel Tir a Cara Fi. “Weithiau mae ffeindio mas misoedd o flaen llaw yn medru effeithio’r actio. Wrth adael hwn tan y funud olaf, ro’n i wir yn teimlo y gallai unrhyw beth ddigwydd. Fe wnaeth e’n sicr fy nghadw i on edge!”

Yn y drydedd gyfres o’r cynhyrchia­d sydd wedi ennill nifer o wobrau BAFTA Cymru, mae’r wynebau cyfarwydd yn cynnwys Ifan Huw Dafydd, Sharon Morgan, Owain Arthur, Gwydion Rhys, Dafydd Hywel, Siân Reese-Williams, Geraint Morgan, Victoria Pugh, Owain Gwynn, Mali Jones, Heledd Gwynn a Gwen Ellis.

35 Diwrnod: S4C, nos Sul 9pm

 ??  ?? ● Gwydion Rhys a gweddill y cast
● Gwydion Rhys a gweddill y cast

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom