Gorchymyn iddo fo’i hun: Cau dy Geg Stifyn
HERIOL, hy, hilariws – tri gair y gallwch chi ddefnyddio i ddisgrifio’r impresario a chyfaill i’r sêr, Stifyn Parri, neu ei sioe standyp ‘Cau dy Geg’.
Mae’r cyflwynydd, actor, mentor, trefnydd digwyddiadau a chynhyrchydd teledu nawr yn gallu ychwanegu ‘comedïwr standyp’ i’w restr o dalentau diddiwedd.
Mewn rhaglen afaelgar i’w darlledu ar Ddydd Ffŵl Ebrill, bydd Stifyn Parri: Cau Dy Geg! yn cynnig cipolwg unigryw y tu ôl i’r llen wrth i Stifyn baratoi ar gyfer perfformio ei sioe o flaen cynulleidfa fyw am y tro cyntaf.
Yma, mae Stifyn yn dweud mwy wrthon ni am y sioe a’r rhaglen sy’n ddi-sgript, ddi-flewyn ar dafod – ac yn ddigywilydd!
Beth allwch chi ddatgelu am y rhaglen Stifyn Parry: Cau dy Geg!?
Y llynedd fe wnes i gyfres o sioeau standyp o’r un enw â’r rhaglen ac es i â’r sioe i Rosllannerchrugog, Caerdydd, Llundain a Bangor. Mae’r rhaglen yn fy nilyn i wrth i mi fynd ati i greu’r sioe o ddim byd ond pentwr o luniau a rhestr o’r straeon mwya’ bisâr sydd gen i. Dwi’n sôn am fy hanes efo’r sêr – pawb o Shirley Bassey i Tom Jones ac o Siân Lloyd i Catherine ZetaJones! A does dim gair o gelwydd yn y sioe.
Wnes i byth bwriadu creu rhaglen deledu allan o’r sioe – a dweud y gwir, roeddwn i eisiau cadw’r camerâu yn bell iawn o’r sioe ar y dechrau. Ond ces i fy mherswadio’n raddol fach y byddai hwn yn rhoi golwg unigryw ar y daith es i arni i greu’r sioe. Ces i gyfle i fynd ‘nôl i set Brookside, lle rhoddais i’r gusan hoyw gynta’ ar deledu Prydeinig. Mae’n teimlo fel achau yn ôl!
Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i wneud sioe standyp o’r fath?
Doeddwn i erioed wedi gwneud sioe standyp o’r blaen – dwi’n meddwl ‘mod i’n ‘closet comic’ – ond roedd angen imi gyfaddef i fi’n hun ‘mod i eisiau gwneud sioe. Y cam cynta’ oedd dweud yn gyhoeddus ‘mod i am wneud sioe – roedd rhaid i mi ei gwneud hi wedyn!
Ydy gwneud sioe standyp yn brofiad gwahanol i chi?
Mae gwneud standyp yn arallfydol o wahanol. Mewn ffordd ryfedd, roeddwn i’n defnyddio fy sgiliau perfformio i gyd – actio, canu, cyflwyno a chynhyrchu. Wnes i benderfyniad i fod yn hollol onest efo’r gynulleidfa wrth wneud y sioe yma, neu doedd dim pwynt. Mae popeth sydd yn y sioe wedi digwydd a dwi ddim yn teimlo’n embarrassed am ddim byd.” Dim ond bod y gynulleidfa’n gweld y straeon yn ddoniol, dyna’r cwbl sy’n fy mhoeni i.
A wnaethoch chi gadw unrhyw straeon allan o’r sioe gan eu bod nhw’n rhy gywilyddus?
Wnes i gyfarfod â’r cyfreithiwr sawl gwaith! Dwi wedi dysgu bod ‘na ffordd o ddweud bob stori. Yn y sioe rydw i’n dweud pethau mawr, ond dim byd enllibus.
Stifyn Parri Cau dy Geg!: S4C, nos Sadwrn 9pm