Prifardd ac enillydd dwy Grammy yn cydweithio
WEDI wythnosau o gystadlu brwd, mae pum côr wedi plesio’r beirniaid a chyrraedd brig eu categori, ond mae’r amser wedi dod i goroni Côr Cymru 2017.
Bydd holl fwrlwm y rownd derfynol i’w weld yn fyw nos Sul, 9 Ebrill ar S4C. Ac fel tamaid i aros pryd, bydd Ffeinal Côr Cymru Cynradd 2017 yn dychwelyd nos Sadwrn, 8 Ebrill ac yn gwobrwyo’r côr ysgol gynradd gorau.
Y corau fydd yn mynd benben â’i gilydd nos Sul yn y rownd derfynol fawr bydd Côr Ieuenctid Môn o gategori’r plant; Côr Merched Sir Gâr o gategori’r corau ieuenctid; Côr Meibion Machynlleth o gategori’r corau meibion; Ysgol Gerdd Ceredigion fydd yn cynrychioli’r corau merched a Côrdydd y corau cymysg.
Er bydd y pum côr yn canu rhaglen gerddorol unigol, eleni am y tro cyntaf, bydd y corau hefyd yn cyd-ganu un gân arbennig iawn, a honno wedi’i hysgrifennu gan enillydd dwy Grammy a Phrifardd.
Christopher Tin o Galiffornia, un o feirniaid y gystadleuaeth sydd wedi cyfansoddi’r gân.
Fe enillodd y cyfansoddwr un o’i Grammys am ei gyfansoddiad ‘Baba Yetu’, prif gân thema’r gêm gyfrifiadurol boblogaidd ‘Civilisation IV’.
Mae’r gân wedi ei chanu gan nifer o gorau ar hyd a lled y byd ac yn gyfansoddiad uchel iawn ei barch yn y maes corawl.
Mae Christopher wedi bod yn cydweithio ar y cyfansoddiad ar gyfer Ffeinal Côr Cymru 2017 gyda’r Prifardd Mererid Hopwood a mwynhaodd gydweithio â hi yn fawr iawn.
“Enw’r darn yw ‘Adain Cân’, ac mae’n gân o ddathlu. Mae’n gân ddyrchafol a bydd pob un o’r corau yn canu pennill yr un cyn cydganu’r diweddglo.
“Ysgrifennodd Mererid eiriau am gerddoriaeth yn codi’r galon ac yn fodd o ddod â phobl at ei gilydd. Yn ysbryd cynnwys pawb, ysgrifennodd benillion mewn Sbaeneg, Almaeneg a Saesneg a’u plethu gyda’r rhai Cymraeg. Mae’n sicr yn deyrnged ryngwladol.”
Bydd dwy brif wobr ar y noson; gwobr y beirniaid ar gyfer y côr gorau ynghyd â gwobr yr arweinydd gorau a noddir gan Gwesty Llety Parc, Aberystwyth. Bydd gan y gynulleidfa gartre’ hefyd gyfle i bleidleisio am eu hoff gôr.
Yr ysgolion fydd yn cystadlu am wobr Côr Cymru Cynradd ydy Ysgol Gymraeg Teilo Sant o Landeilo; Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn o Gwm Rhondda; Ysgol Iau Llangennech ger Llanelli ac Ysgol Pen Barras o Ruthun. Bydd y bencampwriaeth yma’n cael ei darlledu yn fyw nos Sadwrn.
Ffeinal Côr Cymru Cynradd: S4C, nos Sadwrn 5.15pm Ffeinal Côr Cymru: S4C, nos Sul 6.30pm