Caernarfon Herald

Tudur yn dod a seidr lleol yn ôl i Gonwy

-

EFALLAI bod Castell Conwy yn fyd enwog, ond mae gan y dref ganoloesol gyfrinach – fel bydd y cyflwynydd, comedïwr a’r gŵr busnes Tudur Owen yn darganfod yn Tudur Owen a’r Cwmni Seidr, ail raglen ei gyfres tair rhan ar nos Fawrth, 18 Ebrill.

Yn tyfu wrth ymyl waliau’r castell mae perllan fawr ffrwythlon sy’n perthyn i bobl y dref. A bydd Tudur yn codi llwnc destun wrth i griw o bobl leol fynd ati i adfer yr hen grefft o greu a gwerthu seidr lleol gan ddefnyddio ffrwythau’r berllan.

Fel mewn sawl tref ar draws Cymru, roedd gan bobl Conwy berllan gymunedol. Mae hanner can mlynedd wedi mynd heibio ers i’r afalau diwethaf gael eu gwasgu, ac mae’r hen sgiliau a thraddodia­dau bragu wedi eu colli – tan nawr.

Mae criw o drigolion y dref eisoes wedi dechrau ar y gwaith o adfer rhannau o’r hen berllan, ac eleni, am y tro cyntaf ers canrif, mae cynlluniau i greu seidr enwog Conwy unwaith eto. Y nod yw gwerthu’r seidr a chynnig rhywbeth ychydig yn wahanol i’r mathau adnabyddus sydd ar gael yn y tafarndai.

“Mae’r traddodiad o greu seidr cymunedol yng Nghymru yn dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol, gyda sawl afal a gellygen gynhenid Gymreig yn rhoi blas gwbl unigryw i’r seidr,” meddai Tudur.

“Roedd gan y rhan fwyaf o drefi a phentrefi berllan gymunedol, ond ers y 1950au gyda dyfodiad y siopau a’r bragdai mawr fe ddirywiodd y galw a chyflwr y perllannau.”

Saith o bobl leol sydd am fentro, gyda Morgan Dafydd, sy’n athro yn Ysgol Dolgarrog yn arwain y gad. Gyda help gan Gymdeithas Peri a Seidr Cymru, mae Morgan am i gymuned Conwy gynhaeafu’r ffrwyth o’r berllan gymunedol ac o’r gerddi lleol, er mwyn cael digon o afalau a gellyg i’w gwasgu. Y nod yw creu menter gymunedol a digon o seidr i’w werthu yng Ngŵyl y Gaeaf yn y dref – a hynny mewn saith wythnos!

“Roedd yr holl beth yn brofiad gwych – roedd yn gyfle grêt i ddod i ‘nabod pobl yn y gymuned leol, a dysgu lot fawr am yr hen grefft o wneud seidr gan arbenigwyr,” meddai Morgan. “Roedd pawb oedd yn rhan o’r fenter wedi cyfrannu arian ac felly roedd yr elfen o risg yn reit amlwg. Mewn ffordd, roedd hynny’n gwneud yr holl beth yn gyffrous iawn, ond wrth gwrs roedden ni’n realistig o’r ffaith y byddai pethau’n gallu mynd o chwith. Ac roedd yn gyffrous gweld y broses yn datblygu. ● Comedian Tudur Owen revives the art of local cider making in Conwy. S4C, Tuesday, 9.30. English subtitles available Tudur Owen a’r Cwmni Seidr: S4C, nos Fawrth 9.30

 ??  ?? ● Tudur Owen
● Tudur Owen

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom