‘Ydach chi’n barod am yr Eisteddfod?’
YN fuan iawn mi fydd Morgannwg Ganol yn fôr o goch, gwyn a gwyrdd, a lluniau o’r cymeriad bach trionglog i’w weld ym mhob man. Mae Mistar Urdd a’i Eisteddfod ar ei ffordd; ac yn estyn croeso i bawb fod yn rhan o’r ŵyl ieuenctid fwyaf yng Nghymru.
Does dim ffordd well o brofi holl amrywiaeth yr ŵyl na throedio’r maes ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. Ond, yn ail agos mae’r dewis i droi at S4C i brofi’r cyfan ar y sgrin, gyda rhaglenni pob dydd a gyda’r nos. Ond cyn hynny, mae amser i ddod i adnabod yr ardal a’i phobl yn y rhaglen Croeso i Eisteddfod yr Urdd ar ddydd Gwener 26 Mai.
Yn y rhaglen mi fydd Nia Roberts yn ein tywys o amgylch bro yr Eisteddfod yn cynnwys ymweld ag ysgolion lleol i weld sut mae’r disgyblion yn paratoi ar gyfer yr ŵyl ar drothwy eu drws ac yn cynnwys golwg arbennig ar yr ymarferion ar gyfer y sioeau Ieuenctid a Chynradd.
Mae themau’r sioeau yn ddath- liad o ddau elfen o hanes yr ardal a bydd y rhaglen yn edrych ar y cefndiroedd yma. Mae’r sioe Gynradd yn stori am ddau Eidalwr dewr yn gadael eu cartref yn Bardi i ddechrau bywyd newydd yng nghwm Rhondda. Mae’r sioe Ieuenctid yn adrodd y stori garu sydd wrth wraidd y dôn werin enwog ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’, sydd a’i gwreiddiau’n ddwfn yn yr ardal.
Y tu hwnt i iard yr ysgol, mae plant a phobl ifanc wedi bod yn ddiwyd yn codi arian gyda’r clybiau Urdd neu’r Aelwydydd. Ael- wyd Porthcawl yw’r hynaf yn y dalgylch, ac ar gyfer yr Eisteddfod eleni maen nhw wedi rhyddhau CD er budd yr ŵyl. Bydd y rhaglen yn mynd â ni i’r ddref glan y môr i glywed mmwy am eu hanes.
Codi arian yw un o’r prif weithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd adeg yr Eisteddfod. Yn y rhaglen byddwn yn cwrdd â Kathryn Jones, a aned ym Maesteg ac a gafodd ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar ôl i Eisteddfod yr Urdd ddod i’w bro yn 1979. Eleni mae hi wedi creu llyfr ar gyfer dysgwyr er mwyn codi arian er budd gweithgareddau i ddysgwr yn yr Eisteddfod.
Felly, ar ôl misoedd o waith caled, mae Pen-y-Bont ar Ogwr yn barod i’ch croesawu chi i’r Eisteddfod. Ydych chi’n barod? Croeso i Eisteddfod yr Urdd: S4C, nos Wener 26 Mai 8.25pm