Croeso cynnes yn aros yr eisteddfodwyr o bob cwr
MAE’R maes yn barod, y gwisgoedd wedi’u paratoi a’r lleisiau wedi eu cynhesu – mae’n wythnos Eisteddfod yr Urdd 2017! Eleni mae’r Eisteddfod wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elái, ac fe fydd S4C yn darlledu’n fyw o’r Maes drwy gydol yr wythnos o ddydd Sul, 28 Mai hyd at ddydd Sadwrn, 3 Mehefin.
Ac mae yna groeso mawr yn disgwyl unrhyw un fydd yn ymweld â’r Ŵyl.
Meddai Tegwen Elis, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd 2017, “Dyma’r tro cyntaf i’r Ŵyl ddychwelyd i’r ardal ers 1991, ac mae’r trigolion yn awyddus iawn i estyn croeso cynnes iawn i bobl Cymru.”
Bydd yr Ŵyl yn dechrau gyda’r Cyngerdd Agoriadol ar nos Sul, 28 Mai, gyda’r gyflwynwraig Siân Lloyd yn arwain y noson. Ymysg y sêr fydd yn perfformio, bydd seren y West End, Sophie Evans, Only Boys Aloud a Dawnswyr Bro Taf.
Yna, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, fe fydd y darllediadau’n dechrau am 10 y bore ac yn cynnwys y cystadlu, y bwrlwm gefn llwyfan, ynghyd â naws y stondinau, gweithgareddau a cherddoriaeth fyw ar hyd y maes.
Ac fe fyddwch mewn cwmni da gydag Anni Llŷn, Iwan Griffiths, Lois Cernyw a Trystan Ellis-Morris wrth y llyw i’ch tywys drwy’r dydd.
Bob nos, fe fydd Heledd Cynwal yn bwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau’r dydd yn y rhaglen uchafbwyntiau.
Wrth gwrs, fe fydd yr wythnos i gyd yn binacl i bawb sydd wedi bod yn helpu gyda’r paratoadau yn yr ardal.
Gallwch gael y newyddion diweddaraf o’r maes drwy ddilyn cyfrifon rhwydweithiau cymdeithasol S4C – bydd diweddariadau ar Facebook a Twitter yn ogystal â golwg tu ôl i’r llenni ar Instagram a Snapchat.
Bydd cystadlaethau sydd wedi eu darlledu hefyd ar gael i’w gwylio eto ar YouTube.
A bydd holl raglenni’r wythnos ar gael i’w gwylio eto ar alw ar-lein ar s4c.cymru ac ar BBC iPlayer, neu ar ap S4C.
Eisteddfod yr Urdd 2017: Cyngerdd
Agoriadol Sul 28 Mai 8.30, S4C Llun – Sadwrn Darllediadau byw yn dechrau am 10 y bore; Rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos
Opening Concert – Sunday 28 May 8.30, S4C Monday – Saturday daily live broadcasts from 10am. English sound-track available via the red button on Sky, Freeview or Virgin Media. Freesat viewers should use the audio selection option
Highlights programme every evening o S4C. English subtitles available.