Cyfrinach ddauwynebog David yn dod i’r amlwg o’r diwedd
MAE cyfrinach fawr wedi bod yn pwyso’n drwm ar gydwybod rhai o drigolion Glanrafon yn y gyfres sebon Rownd a Rownd yn ddiweddar, ac mae cyfnod cythryblus i ddod ym mhenodau’r wythnos hon (nos Fawrth 23 a nos Iau 25 Mai).
Mae Dani, un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y gyfres, wedi mopio gyda’i chariad David, a fyddai hi byth yn breuddwydio ei fod o’n cael perthynas gyda dyn y tu ôl i’w chefn.
I wneud pethau’n waeth, mae Jac a Lowri, sy’n gweithio yn salon gwallt Dani, wedi dod i wybod am y twyll wedi i Jac weld David a Rhys y mecanic, yn cusanu mewn car. Mae David wedi addo i Rhys ei fod yn bwriadu cyfaddef y cyfan wrth Dani pan fydd hi’n cael tynnu’r brês cefn bu raid iddi wisgo yn sgil damwain. Ond a fydd Jac a Lowri’n achub y blaen arno ac yn datgelu’r gyfrinach i’w ffrind?
Yn ôl Iestyn Arwel, sy’n portreadu David (chwith), yr ymgynghorydd ariannol swanc, mae ei orffennol dirgel wedi gadael ei ôl arno.
“Dwi’n meddwl bod yna adegau yng ngorffennol David lle mae wedi cael perthynas gyda dyn,” meddai’r actor sy’n wreiddiol o Landysul. “Efallai, yn seicolegol, mae colli ei fam wedi gyrru David i chwilio am yr uned deuluol berffaith, gan ei arwain i fyw bywyd o gelwydd. Dwi’n meddwl iddo gael y syniad yma mai Dani oedd y ferch ddelfrydol i greu uned deuluol gyda fe. Ond wedyn mae’n sylweddoli nad ydy’n bosib dweud celwydd wrth dy hun, gan ei fod am ddod i’r amlwg yn y pendraw, a rhywun
Rownd a Rownd : S4C nos Fawrth ac Iau 7.30