DYDD SADWRN TAITH Y LLEWOD 2017: PROVINCIAL UNION XV V Y LLEWOD S4C, 8.30
GYDAG S4C yn darlledu uchafbwyntiau o bob gêm yn Nhaith Llewod Prydain ac Iwerddon 2017, mae’r sianel wedi cael cymorth pedwar cyn-Lew ar gyfer yr ymgyrch hyrwyddo.
Gyda 24 cap prawf y Llewod rhyngddyn nhw, bydd Syr Gareth Edwards, Gerald Davies, Dwayne Peel a Stephen Jones yn ymddangos yn yr ymgyrch aml-lwyfan, i adrodd eu hanesion yn y crys coch enwog yn ogystal â rhoi eu barn am y garfan bresennol.
Eleni fe fydd y daith yn cychwyn yn erbyn Barbariaid Taleithiau Seland Newydd ddydd Sadwrn, 3 Mehefin, gydag uchafbwyntiau yn cael eu dangos ar S4C am 8.30yh.
Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau’r gêm rhwng y Llewod a’r Auckland Blues yn Eden Park, am 10yh.
Felly, beth oedd gan y pedwar Llew i’w ddweud? Syr Gareth Edwards – 3 taith, 10 gêm prawf:
“Rwy’n credu bod y garfan yn un o’r rhai cryfa’ sydd wedi gadael Prydain ac Iwerddon. Mae’r garfan yn llawn chwaraewyr arbennig. Mae’r Crysau Duon ‘di bod gyda’i gilydd ers blynyddoedd. Er bod carfan y Llewod yn gryf ac er bod ‘na unigolion arbennig yno, a oes gan Warren Gatland yr amser i’w tynnu nhw at ei gilydd? Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld beth yw’r ateb.
“Rwy’n mynd i edrych yn fanwl ar Maro Itoje – fydd hi’n ddiddorol gweld os bydd e’n chwarae yn y rheng ôl neu yn yr ail reng. Byddaf i’n edrych ymlaen at weld hefyd shwt mae’r rheng ôl yn mynd i chwarae, achos fydd hynny’n hollbwysig i weld pa ffordd mae pethau’n gweithio mas.” Gerald Davies – 2 daith, 5 gêm prawf
“Mae’r ffaith eu bod nhw ‘di dewis Sam fel capten yn rhywbeth gwych iddo fe ond hefyd i ni fel Cymry. Wrth gwrs, dyma’r ail dro iddo gael ei ddewis, felly mae’n amlwg eu bod nhw’n hoff o’i bersonoliaeth ac mae e wedi chwarae’n gryf yn ddiweddar.
“Dwi’n gobeithio bod y bobl ifanc sy’n mynd ar y daith yn mynd yno i fwynhau’r wlad a’i phobl. Os nad wyt ti’n hapus ac yn gyfforddus, dwyt ti ddim yn mynd i ennill. Bydd y pwysau’n drwm a bydd y chwaraewyr yn nerfus. Bydd yr awyrgylch mas yn Seland Newydd yn un heb drugaredd, felly mae eisiau iddyn nhw fod yn gyfforddus yn eu hunain, a gyda’i gilydd.” Dwayne Peel – 1 daith, 3 gêm prawf