Caernarfon Herald

Ramsey yn barod i gamu i’r adwy yn absenoldeb Bale

-

MAE cyn chwaraewrp­êldroed Cymru Owain Tudur Jones yn credu y bydd Aaron Ramsey yn barod i gamu i’r adwy fel prif fygythiad Cymru yn erbyn Serbia, yn absenoldeb Gareth Bale.

Yn dilyn ei waharddiad ar ôl dau gerdyn melyn yn yr ymgyrch, ni fydd ymosodwr Real Madrid ar gael i chwarae dros Gymru yn eu gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2018 hollbwysig yn Belgrad nos Sul.

Mae Owain Tudur Jones, a fydd yn stiwdio Sgorio Rhyngwlado­l wrth i S4C ddarlledu’r gêm yn fyw am 7.15, yn credu y bydd pwysau ar Ramsey i gynorthwyo ymosodwyr Cymru.

Mae hefyd yn credu bydd Coleman yn addasu ei dactegau a chwarae gyda phedwar yn ei amddiffyn, yn lle’r system 3-5-2 arferol, gyda Ben Davies yn symud i safle’r cefnwr chwith yn lle Neil Taylor, sydd wedi ei wahardd.

Dywedodd Tudur Jones, a enillodd saith gap dros ei wlad: “Mae gwaharddia­d Gareth Bale yn amlwg yn ergyd anferth. Fo ydi canolbwynt y tîm. Mae’n rhaid i ni ddelio â’i absenoldeb ac addasu. Y cwestiwn mawr ydi, pwy sy’n cymryd lle Gareth Bale? Rydan ni ‘di bod heb chwaraewyr mawr cyn rŵan, felly ‘di o ddim byd newydd. Y broblem ydi fod neb yn gwneud beth mae Gareth Bale yn ei wneud.

“Fydd yn rhaid i rywun arall fod yn ganolbwynt ar ein hymosod a chynnig sbarc o greadigrwy­dd, a dw i’n meddwl mai Aaron Ramsey fydd y person yna. Mae o’n chwarae’n wych ar y funud ac mi fydd o’n llawn hyder ar ôl sgorio’r gôl i ennill Cwpan yr FA i Arsenal yn ddiweddar. Tu ôl iddo fydd y ddau Joe, gyda Sam Vokes a Hal Robson-Kanu gyda’i gilydd yn yr ymosod, felly mi fydd na le i rywun arall fod hefo Aaron, tu ôl i’r ddau ymosodwr.”

Mae’n awgrymu Tom Lawrence, ar ôl iddo gael tymor i’w gofio hefo Ipswich, neu ymosodwr ifanc Lerpwl, Ben Woodburn. Sgorio Rhyngwlado­l Serbia v Cymru: Nos Sul 11 Mehefin 7.15, S4C

 ??  ?? ● Aaron Ramsey ar ol ennill Cwpan FA Lloegr efo’i glwb Arsenal yn ddiweddar Laurence Griffiths/Getty Images
● Aaron Ramsey ar ol ennill Cwpan FA Lloegr efo’i glwb Arsenal yn ddiweddar Laurence Griffiths/Getty Images

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom