Lle mae cenhedloedd y byd yn dod at ei gilydd
BYDD tref fechan Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei thrawsnewid yn fôr o ddawns a cherddoriaeth liwgar o bedwar ban byd yr wythnos hon. A gydag Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn dathlu ei phen-blwydd yn 70 eleni, bydd S4C yn darlledu’r cystadlu a’r canu, y dawnsio a’r diwylliant wrth i Eisteddfodwyr o bob cwr o’r byd heidio yno i gynnig gwledd i’r glust a’r llygad.
Bydd rhaglenni dyddiol yn ystod y dydd a gyda’r hwyr ar S4C yn ogystal â darllediadau arbennig o gystadleuaeth Côr y Byd ac uchafbwyntiau Cyngerdd Gala arbennig iawn.
Yn rhan o dîm cyflwyno rhaglenni’r dydd eleni mae Morgan Jones ac Elin Llwyd. Y nhw, yn ogystal ag ambell arbenigwr, fydd yn trin a thrafod y cystadlaethau corawl, dawnsio, unawdau ac offerynnol ac yn rhoi blas o fwrlwm y maes a’r dref wrth i ddwsinau o gerddorion a dawnswyr o bedwar ban byd geisio am y gwobrau.
NiaNi RobertsRb aT Try stan Elli Ellis-MorM ris fydd yn cyflwyno’r rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos, yn clywed straeon a hanesion difyr am y cystadleuwyr ac yn rhannu yn nathliadau’r buddugwyr. Cawn hefydh hanes y grwpiau o Gymru sy’n cystadlu yn Llangollen.
Mae Trystan EllisMorris bellach yn hen law ar gyflwyno o’r ŵyl aca yn cyfaddef mai cyflwyno o Langollen yw un o’r swyddi gorau yn ei galendr gwaith.
“Dwi’n meddwl mai’r prif reswm dros hyn ydy’r ‘ buzz’ mae rhywun yn ei deimlo wrth gerdded adra’ o’r maes yn ôl i’r gwesty ar ôl diwrnod hir a blinedig ac yn sydyn gweld a chlywed canu, perfformiadau, bandiau, dawnsio a phob math o synau a symudiadau ar hydh y strydoedd. Mae pawb yn cyd-dynnu ac yn gwerthfawrogi diwylliant ei gilydd ac yn cael lot fawr o hwyl wrth wneud. Mae hwnna yn brofiad arbennig iawn,” meddai’r cyflwynydd sy’n wreiddiol o Ddeinio- len ond sydd bellach yn byw yn Hammersmith yng Ngorllewin Llundain.
Mae e’n cyfadde’ serch hynny, gyda’r amrywiaeth o ieithoedd a diwylliannau mae’n dod ar eu traws wrth gyflwyno o’r ŵyl, bod ambell gamddealltwriaeth yn digwydd.
“Y flwyddyn gyntaf wnes i gyflwyno, mi oeddwn i’n eitha’ nerfus a ddim cweit yn siŵr beth i ddisgwyl. Mae’n sefyll i reswm y byddai rhyw gymhlethdod iaith yn digwydd o gofio’r acen Deiniolen gryf sy’ gen i! Mi ges i’n nhaflu i ganol y parêd enwog i gyfweld â chriw lliwgar ac annwyl o Dde Affrica. Mi wnes i ofyn yn fy Saesneg gorau, ‘How are you, what do you think of Llangollen?’
Wedi oedi am ‘chydig eiliadau oedd yn teimlo fel oriau, ac edrychiad dryslyd ar wyneb y ddynes, ges i’r ateb, ‘Can you repeat in English please?’ Mi wnes i golli’r plot yn lân a chwerthin heb unrhyw reolaeth gan fod y nyrfs wedi cael y gora’ ohona i!”