Rownd a Rownd
1-7 Gorffennaf
MAE John wrthi’n brysur yn gwneud trefniadau ar gyfer y garej gyda Rhys yn debygol o fynd i’r carchar.
Mae Glenda ac Iris yn benderfynol bod Mr Lloyd a Megan yn mynd i gael brecwast priodas a lle gwell i’w gynnal na Copa gyda Glenda yn gyfrifol am y gacen?
Mae Michelle wedi cael llond bol ar glywed am y dathliadau - ond tybed pwy fydd yn ei chredu pan mae hi’n datgelu newyddion syfrdanol am Megan? Rownd a Rownd: Mawrth ac Iau 7.30, S4C