Caernarfon Herald

Pobol y Cwm

1-7 Gorffennaf

-

MAE Jim yn dychwelyd i Gwmderi er mwyn gweld carreg fedd Courtney yn cael ei gosod.

Ar ôl cyrraedd adref, mae’n cyfaddef wrth Eileen nad yw’n siŵr os yw e’n ei charu hi mwyach. Mae Jim yn penderfynu gadael Eileen a symud i fyw at ei frawd, Adrian, yn yr Alban. Ond beth yw gwir gymhelliad Adrian am glosio at ei frawd?

Mae Hannah yn dweud wrth Chester ei bod yn bwriadu mynd ‘nôl i Awstralia am gyfnod dros yr haf, ond caiff Chester siom pan nad yw Britt yn fodlon rhoi’r arian iddo fynd gyda hi. Nid yw Colin yn cytuno gyda Britt am hyn ac mae’r ddau yn ffraeo, gyda chanlyniad­au trychinebu­s i Colin.

Aiff Jim at fedd Courtney i ddweud ffarwel. Pobol y Cwm: Llun-Gwener 8.00, S4C

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom