A fydd cynllwyn a thwyll Megan yn dod i’r wyneb?
‘MAE pawb yn licio chwarae rhan rhywun drwg,” meddai Gaynor Morgan Rees, yr actores sy’n chwarae Megan, y gynllwynwraig ddidostur yn yr opera sebon Rownd a Rownd.
Dros y misoedd diwethaf, mae Mr Lloyd, yr hen ŵr hynaws, wedi llithro’n ddyfnach i grafangau Megan wrth iddi weithredu cynllun i’w dwyllo a chymryd mantais o’i gynilion a’i ewyllys da. Daw’r cyfan i benllanw’r wythnos hon. Ond bydd yn rhaid i’r gwylwyr aros am ychydig wythnosau i ddarganfod beth fydd yn digwydd nesaf i Mr Lloyd, wrth i’r opera sebon gymryd hoe dros wyliau’r haf. Ar ôl yr wythnos hon, byddwn yn ailymuno â thrigolion Cilbedlam ddydd Mawrth, 12 Medi.
Mae Mr Lloyd yn un o gonglfeini cymdeithas y pentref; mae un ai i’w weld yn y capel yn canu’r organ neu ar bwyllgor y pentref yn trefnu digwyddiadau i godi arian. Mae o wedi bod yn ŵr gweddw ers blynyddoedd, felly mae’n dotio pan ddaw Megan i’w fywyd. Ac er i’w perthynas fod cwta chwe mis, mae Megan yn falch o ddangos ei modrwy ddyweddïo i bawb, ac mae hi wedi gwthio i gynnal y diwrnod mawr mor fuan â phosib.
Mae cynllun cyfrwys Megan wedi bod ar droed ers y dechrau, ac mae hi hyd yn oed wedi bod yn ymarfer ffugio llofnod ei darpar ŵr. Ond mae Michelle, sy’n helpu i lanhau tŷ Mr Lloyd, wedi synhwyro bod rhyw ddrwg yn y caws, ac mae’n benderfynol o geisio achub Mr Lloyd rhag twyll ei gariad.
“Mae Megan fel anifail rheibus yn chwilio am ysglyfaeth. Dyma sut mae hi’n ennill bywoliaeth – dod o hyd i ddynion diniwed fel Mr Lloyd a’i debyg a’u blingo nhw yn llythrennol. Ro’n i’n methu credu bod dynion yn gallu bod mor ddiniwed!” meddai Gaynor, sydd wedi diddanu ar deledu ac ar lwyfannau ers blynyddoedd.
“Mae hi’n gwisgo’n blaen ac yn gyffredin, mae’i hymarweddiad mor wylaidd a thyner, felly am dipyn mae pawb yn cael eu twyllo. Does neb yn gwybod pwy ydy hi, na’i chefndir. Mae’n amlwg ei bod hi’n mynychu’r math o lefydd mae pobl ddiniwed fel Mr Lloyd yn mynychu ac yn llygadu pawb i weld pwy fydd yr un nesaf.
“Fel actores, mae wedi bod yn ddiddorol chwarae cymeriad sy’n actio. Actio rhan mae Megan, achos dy’ch chi’n cael ambell i gipolwg ar sut un ydy hi pan mae hi ar ei phen ei hun – y tŷ hardd, car drud gogoneddus, dillad gwych. Mae’r glamour yma’n gyferbyniad llwyr i sut mae ei hymarweddiad pan mae hi’n actio rhan y dwyllodwraig,” meddai Gaynor.
Ond gyda’r briodas ar y trothwy, a fydd Michelle yn llwyddo i ddarganfod digon o dystiolaeth i ddarbwyllo Mr Lloyd i brofi twyll y ddynes sy’n gannwyll ei lygaid? ● Rownd a Rownd Nos Fawrth 11 a nos Iau 13 Gorffennaf 7.30, S4C