Caernarfon Herald

Rhedwyr o bob cwr yn herio’n mynydd uchaf

-

TRI deg mlynedd ers i S4C ddarlledu Ras yr Wyddfa am y tro cyntaf, bydd y camerâu’n dychwelyd i Lanberis eto ar gyfer ras eleni. Bydd dros 600 o redwyr proffesiyn­ol ac amatur o Brydain a thu hwnt yn ymweld â’r pentref er mwyn ceisio concro un o’r rasus mynydd mwyaf heriol yn Ewrop.

Bydd S4C yn dangos uchafbwynt­iau’r ras, nos Sul 16 Gorffennaf, noson ar ôl y digwyddiad ei hun.

Gareth Roberts a Lowri Morgan fydd yn arwain y tîm cyflwyno, tra bod Nic Parry a’r rhedwr profiadol o glwb Eryri Harriers, Dafydd Whiteside Thomas, yn sylwebu ar y cyffro.

Meddai trefnydd y ras, Stephen Edwards, “Mae’r berthynas rhwng y ras ac S4C yn mynd yn ôl i 1987. Mae’n ddiwrnod gwych i’r pentref ac i’r ardal.

“Y dyddiau yma mae ‘na faneri a ffair, ac mae’r tafarndai yn llawn dop. Mae’r penwythnos yn teimlo fel mwy o wŷl mewn gwirionedd. Os nad wyt ti’n rhedeg, mae ‘na ddigon ymlaen i’r teulu hefyd. Mae pawb yn mwynhau eu hunain ac mi fydd y rhaglen uchafbwynt­iau yn rhoi blas i’r gwylwyr o’r awyrgylch arbennig yma.”

Gyda nifer yr ymwelwyr i’r copa yn cynyddu bob blwyddyn, mae prysurdeb llwybrau’r mynydd yn cynnig her i’r trefnwyr ar ddiwrnod y ras.

Ychwanega Stephen, “Prysurdeb y mynydd ydy un o brif heriau diwrnod y ras yn sicr.

“Mae ‘na chwe llwybr yn mynd i fyny, gyda rhyw hanner miliwn o gerddwyr a dringwyr yn ymweld â’r copa bob blwyddyn.

“Mae o’n fwy poblogaidd gyda cherddwyr na Scafell Pike a Ben Nevis. Dyna ‘di’r prif reswm ‘da ni angen cymaint o farshals a’r tîm mountain rescue ar y mynydd.

“Rydyn ni hefyd wedi gorfod symud yr amser o 2.00 o’r gloch i 12.00 o’r gloch eleni i drio cael y rhedwyr i fyny tra bod ‘na lai o bobl ar y mynydd.”

A’r ras yn dathlu 42 mlynedd ers y ras gyntaf un, pam bod Ras yr Wyddfa yn dal i ddenu rhedwyr?

“Ras lôn garw ydy Ras yr Wyddfa ac mae hi’n ras eiconig, ras boblogaidd.

“Mae’r record am redeg y ras yn dal i sefyll (1 awr 2 funud a 29 eiliad a osodwyd gan Kenny Stuart ym 1985) – a gobeithio y bydd hynny’n parhau i ddenu’r genhedlaet­h nesaf i redeg yma.” Ras yr Wyddfa: S4C, nos Sul 9pm

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom