Caernarfon Herald

DYDD SUL HEDD WYN S4C, 8

-

MAE S4C yn nodi canmlwyddi­ant marwolaeth y bardd Hedd Wyn gydag wythnos o ddrama, cerddoriae­th a rhaglenni ffeithiol rhwng 30 Gorffennaf a 4 Awst.

Fe laddwyd Hedd Wyn (Ellis Humphrey Evans), o’r Ysgwrn, ger Trawsfynyd­d, ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchenda­ele, Gwlad Belg ar 31 Gorffennaf, 1917. Rhai wythnosau’n ddiweddara­ch enillodd ei awdl ‘ Yr Arwr’ gystadleua­eth Cadair Eisteddfod Genedlaeth­ol Penbedw.

Fe gafodd y wobr ei dyfarnu i r ôl ei farwolaeth a chael ei hadnabod byth wedyn fel y ‘Gadair Ddu’. Daeth Hedd Wyn yn symbol pwerus a pharhaol o’r milwyr Cymreig a Phrydeinig a fu farw ar feysydd y gad yn Ewrop.

Mae’r wythnos o raglenni yn dechrau gyda rhifyn pen-blwydd arbennig o’r gyfres gerddoriae­th mawl Dechrau Canu Dechrau Canmol, (Sul, 30 Gorffennaf) o bentref brodorol y bardd, Trawsfynyd­d. Gyda Nia Roberts yn cyflwyno, mae’n cynnwys côr yr ysgol gynradd leol, Ysgol Bro Hedd Wyn, Côr Meibion on Prysor, ffilmiau archif f pwerus a darnau o’i gerdd fawr.

Yn dilyn Dechrau Canu Dechrau Canmol, bydd S4C yn darlledu’r ffilm Cymraeg gyntaf erioed i gael ei henwebu ar gyfer Oscar. Mae’r ffilmm Hedd Wyn (Sul, 3030 Gorffennaf ), a gyfarwyddw­ydddwyd gan Paul Turner ac yn serennu Huw Garmon yn y brif ran, wedi cael ei chanmol am ei phortread telynegol, emosiynol o’r ffermwr a aeth i ryfel i arbed ei frawd iau rhag mynd.

Er bod 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r ffilm gael ei rhyddhau, mae’r profiad o actio’r brif ran yn dal yn fyw yn y cof i Huw Garmon.

Meddai, “Roedd yna deimlad ar y pryd bod yna rywbeth arbennig am y ffilm. Roedd hi’n stori mor gryf a’r tîm cynhyrchu wedi mynd i’r afael â themâu oesol am far- wolaethwol­aet drasig y bardd; roeddroed naws ac ansawddan arbennig i’ri’ ffilmio o’r dechrau.d Roedd yn gymaint o fraint i fod yn rhan o’r prosiect a phortreadu ccymeriad mor eieiconig yn hanes y RhRhyfel.” DaDangoswy­d y rhaglenrha­glen Cofio: Hedd Wyn (Sul, 30 Gorffennaf) am y tro cyntaf yn 1967 i gyd-fynd â 50fed mlwyddiant ei farwolaeth. Ynddi mae ei gariad a’i ffrindiau yn cofio am eu cyfeillgar­wch gyda’r bardd ac yn esbonio’r anawsterau a gafodd Hedd Wyn yn ei ymdrech i ddod yn Brifardd. Bydd cyngerdd canmlwyddi­ant yr Eisteddfod Genedlaeth­ol yn fyw o Bafiliwn yr ŵyl ar Ynys Môn, a’i chynnwys yw gwaith cerddorol gwreiddiol sydd wedi ei ysbrydoli gan fywyd Hedd Wyn. Mae Cyngerdd Hedd Wyn: A Oes Heddwch? (Gwener, 4 Awst) yn argoeli bod yn

Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn (Llun ,31 Gorffennaf), mae cyfle arall i fwynhau perfformia­d cyntaf y delynores fyd-enwog Catrin Finch o’i theyrnged gerddorol bersonol i’r bardd o’r Konzerthau­s, Berlin.

Bydd rhaglen ddogfen newydd am Hedd Wyn yn cael ei chyflwyno gan ein Bardd Cenedlaeth­ol, Ifor ap Glyn ar S4C yn yr hydref.

Am fanylion lawn am y rhaglenni, ewch i amserlen S4C – s4c.cymru

 ??  ??

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom