Caernarfon Herald

Rhaid trin pob gem fel yr un bwysicaf erioed

- Sgorio – Cymru v Awstria: nos Sadwrn 2 Medi 7.15pm, S4C Sgorio: Moldofa v Cymru Nos Fawrth 5 Medi 7.15pm, S4C

BYDD yn rhaid i Gymru drin pob gêm fel ffeinal, yn ol y cyn-chwaraewr rhyngwlado­l, Malcolm Allen. MAE’R sylwebydd yn credu y bydd yn rhaid i hogia’ Cymru “drin pob gêm fel gêm fwyaf eu bywydau” er mwyn cael unrhyw obaith o gyrraedd cystadleua­eth Cwpan y Byd flwyddyn nesaf.

Mae tîm Chris Coleman bedwar pwynt y tu ôl i Serbia a Gweriniaet­h Iwerddon, gydag ond pedair gêm i’w chwarae yn y grŵp.

Y gemau nesaf i Gymru yw Awstria nos Sadwrn, 2 Medi, cyn iddynt deithio i gwrdd â Moldofa nos Fawrth, 5 Medi, a bydd S4C yn dangos y ddwy gêm yn fyw.

Bydd cyn-flaenwr Watford a Newcastle United, Malcolm Allen yn y blwch sylwebu ar gyfer y ddwy gêm fel rhan o dîm cyflwyno’r rhaglen Sgorio ac mae’n credu bod yn rhaid i Gymru ennill y ddwy gêm i gael unrhyw obaith o gyrraedd Rwsia haf nesaf.

Meddai Malcolm, a enillodd 13 cap dros Gymru: “’Da ni heb golli un gêm o’r chwech, felly fe ddylen ni fod ar dop y grŵp, gyda golwg ar fynd i Rwsia flwyddyn nesa’. Ond y gwir amdani yw ein bod o fewn un gêm o fethu â chyrraedd y nod. Os yw tîm Chris Coleman yn colli neu’n cael gêm gyfartal yn erbyn Awstria, dyna fydd diwedd eu gob- eithion. Rhaid ennill ac felly mae’n rhaid iddyn nhw ystyried hon fel gêm bwysica’ eu bywydau.”

Er bod ymosodwr Real Madrid, Gareth Bale yn dychwelyd ar ôl methu’r gêm gyfartal yn erbyn Serbia ym mis Mehefin yn dilyn gwaharddia­d, fe fydd un chwaraewr allweddol arall ar goll, Joe Allen, chwaraewr canol Stoke.

Ychwanegod­d Malcolm, “Mae Joe Allen wedi bod yn chwaraewr â dylanwad mawr ar y tîm dros y blynyddoed­d diwethaf, ac fe fydd o’n golled fawr. Fe licien i weld Chris Coleman yn mentro hefo chwaraewr ifanc canol cae Lerpwl, Ben Woodburn. Ymhen blynyddoed­d, dwi’n disgwyl iddo fod yn chwaraewr dylanwadol i’w glwb a’i wlad. Gallai Ben greu argraff fawr a bod y sbarc creadigol sydd wedi bod ar goll yn y gemau diwethaf.

“Dwi’n disgwyl y bydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn llawn awyrgylch a’r cefnogwyr ar eu gorau. Licien i glywed lot o sŵn er mwyn boddi gweiddi’r 3,000 o gefnogwyr Awstria a gwneud y lle mor danllyd â phosibl ar gyfer y gwrthwyneb­wyr.”

 ??  ?? Sylwebydd Sgorio Malcolm Allen
Sylwebydd Sgorio Malcolm Allen

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom