Canrif o gofio un o eicionau hanesyddol mwyaf Cymru
GAN mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, y bardd o Drawsfynydd a dyfodd yn un o brif eiconau Cymru, bydd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn olrhain ei hanes mewn rhaglen arbennig Hedd Wyn: Canrif o Gofio.
Darlledir y rhaglen ar S4C ar nos Fercher 6 Medi, sef can mlynedd yn union i’r diwrnod yr enillodd y bardd ei gadair am ei awdl i’r ‘Arwr’, yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw 1917.
Bydd y rhaglen yn dilyn hynt Hedd Wyn o ardal Trawsfynydd i Litherland ger Lerpwl, lle cafodd ei hyfforddi gan y fyddin; ac yna ymlaen i Fléchin yn Ffrainc lle anfonodd ei awdl i’r Eisteddfod; ac i ardal Ieper yng Ngwlad Belg lle bu farw.
“Mae hanes y bardd yn un pur gyfarwydd i’r Cymry bellach,” meddai Ifor, “ond yn y rhaglen hon byddwn ni’n ceisio cyflwyno ambell fanylyn a lleoliad llai hysbys at sylw’r gynulleidfa; er enghraifft y tŷ yn Abercynon lle bu Hedd Wyn yn lletya wrth weithio am gyfnod mewn pwll glo, neu York Hall yn Lerpwl, lle byddai’r milwyr Cymraeg o wersyll Litherland yn cael eu diddanu gan Gymry’r ddinas.”
Dros y ganrif a aeth heibio, mae Hedd Wyn wedi tyfu’n symbol ar gyfer cenhedlaeth gyfan o dalentau coll, ond bydd y rhaglen hefyd yn ceisio adnabod y dyn tu ôl i’r chwedl. Mewn cyfweliadau archif o hanner canrif yn ôl, cawn gyfarfod â rhai oedd yn adnabod Hedd Wyn yn bersonol, fel Enid ei chwaer fach, a Jini Owen ei gariad olaf.
Bydd sawl ymweliad hefyd â chartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn. Mae nai Hedd Wyn, Gerald Williams, wedi treulio’i oes yn dod â hanes ei ewythr yn fyw i’r miloedd o ymwelwyr sy’n galw bob blwyddyn yno.