Pedwarawd egniol i gyffroi gŵyl gerdd
YDD grŵp cerddoriaeth gynnar byd-enwog egniol yn gweddnewid ei hun yn fand sipsiwn dychmygol mewn gŵyl nodedig.
Bydd pedwarawd Red Priest yn ailgreu gwreiddioldeb gwyllt y meistri Baróc cynnar pan fyddant yn serennu yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy am 7.30yh ar nos Wener, Medi 22.
Bydd eu hailymweliad â’r ŵyl yn eu gweld yn tywys y gynulleidfa ar daith gerddorol anhygoel – a’r cyfan yn eu harddull gyffrous unigryw eu hunain.
Mae’r ŵyl, sy’n dechrau ar ddydd Sadwrn, 16 Medi, ac yn dod i ben ar ddydd Sadwrn, 30 Medi, yn cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Tŷ Cerdd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.
Ymhlith sêr eraill yr ŵyl bydd cantorion Opera Cenedlaethol Cymru gyda chôr cymunedol yr ŵyl, grŵp lleisiol VOCES8, y pianydd Federico Colli o’r Eidal, y cyfansoddwr Robat Arwyn, y tenor Rhys Meirion, cerddorfa breswyl NEW Sinfonia, Ensemble Cymru, Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y feiolinydd Ye-Eun Choi a Phedwarawd Gitâr Aquarelle.
Ffurfiwyd grŵp Red Priest yn 1997 a’i enwi ar ôl yr offeiriad gwalltgoch, Antonio Vivaldi, ac mae’r aelodau’n cynnwys y chwaraewr recorder, Piers Adams, y feiolinydd Adam Summerhayes, y chwaraewr sielo Angela East a’r harpsicordydd David Wright.
Eglurodd Piers Adams, un o aelodau gwreiddiol y grŵp, eu bod yn chwilio am syniadau newydd yn gyson ac wedi troi at gerddoriaeth Sipsiwn gynnar Dwyrain Ewrop ar awgrym aelod diweddaraf y grŵp, sef y feiolinydd Adam Summerhayes.
Meddai Adams: “Yr hyn rydym bob amser wedi ceisio ei wneud yw dod â llawer o syniadau newydd at ei gilydd a’u cyfuno. Mae Adam yn feiolinydd amryddawn ac un o’i sgiliau mawr yw chwarae cerddoriaeth Sipsiwn gynnar. Mae’n sŵn anhygoel ac mi wnaethon ni benderfynu y byddem yn ei recordio ar ein seithfed albwm, Baroque John Graham Bohemians.
“Mae’n seiliedig ar gerddoriaeth ddawns Sipsiwn traddodiadol o 1730 ymlaen ond rydym wedi ymgorffori ein syniadau ein hunain yn y gerddoriaeth, ac rydym bob amser wedi ceisio arbrofi a gwneud pethau felly.”
Dywed Adams bod eu dehongliad o gerddoriaeth gynnar a’u perfformiadau theatrig yn golygu bod eu cynulleidfaoedd yn tueddu i fod yn gymysgedd o bobl hŷn sy’n mwynhau cerddoriaeth glasurol a phobl ifanc sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol.
Dywedodd: “Yn draddodiadol mae cyngherddau cerddoriaeth glasurol yn dueddol o ddenu cynulleidfa hŷn ond rydym yn fwriadol yn ceisio anelu ein perfformiadau ni er mwyn denu cynulleidfa iau hefyd.
“Rydym yn edrych ymlaen at ailymweld â Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, bydd ein Ffantasi Sipsiwn Baróc yn cyflwyno rhywbeth newydd i unrhyw un sy’n mwynhau cerddoriaeth gynnar.
“Mae am fod yn noson ardderchog ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod â chynulleidfa gogledd Cymru unwaith eto.”
Dywedodd Ann Atkinson, cyfarwyddwr artistig yr ŵyl: “Mae eu rhaglen yn cynnwys gwaith gan Telemann, Castello, Biber, Van Eyck, Handel a Vivaldi yn ogystal â rhai gweithiau traddodiadol, y mae enwau eu cyfansoddwyr wedi mynd ar goll yn niwl amser.
“Bydd y cyngerdd fwynhad pur ac ni ddylid ei golli.”
Thema gŵyl eleni yw Teithiau a dywed Ann Atkinson fod rhai o’r perfformwyr eraill fydd yn ymddangos yn ystod yr ŵyl yn Llanelwy yn addo cyflwyno rhai perfformiadau cofiadwy iawn.
Meddai: “Mae gennym y feiolinydd anhygoel o Dde Corea, Ye-Eun Choi, sydd hefyd wedi perfformio gyda rhai o gerddorfeydd gorau’r byd, a fydd yn chwarae mewn cyngerdd gyda NEW Sinfonia, cerddorfa breswyl yr ŵyl.
“Mae taith Ye-Eun Choi o’r Dwyrain i’r Gorllewin wrth chwilio am feistrolaeth o’r feiolin yn stori hynod ynddi ei hun a bydd yn perfformio mewn noson hyfryd o gerddoriaeth glasurol.
“Mae gennym ni hefyd gitaryddion clasurol rhyngwladol o safon, sef Pedwarawd Gitar Aquarelle, a fydd yn perfformio cyngerdd o gerddoriaeth o bob cwr o’r byd yn ogystal â chyngherddau gydag unawdwyr Opera Cenedlaethol Cymru, grŵp llais acappella VOCES8 a’r pianydd cyngerdd o’r Eidal Federico Colli, a fydd yn perfformio ochr yn ochr â NEW Sinfonia.
“Bydd yn ŵyl wirioneddol wych ac eithriadol. Mae rhaglen eleni mor amrywiol ac mae yna rywbeth yno at ddant pawb.
“Byddwn yn annog pawb sy’n caru cerddoriaeth glasurol i ymweld â’n gwefan a chael tocynnau cyn gynted â phosibl ar gyfer yr hyn sy’n argoeli bod yn ŵyl gerddorol anhygoel a hwyliog.” ● Tocynnau: nwimf.com, neu ffoniwch 01352 701521 neu 01745 582,929.