Caernarfon Herald

Cerddorion yn dod at ei gilydd mewn harmoni

-

OWEITHIO gyda’r sêr Hollywood Ricky Gervais a Tina Fey yn Muppets Most Wanted i serennu yn y West End yn The Commitment­s, mae Daniel Lloyd, un o westeion y gyfres newydd o Deuawdau Rhys Meirion yn barod am ei her ddiweddara­f.

Mae’n sicr o fod yn wledd o gerddoriae­th wrth i’r gyfres ddychwelyd gyda rhai o’n hartistiai­d cerddorol mwyaf poblogaidd yn barod i gydweithio â’r canwr opera a chlasurol enwog, Rhys Meirion. Byddwn yn mynd ar daith ar draws Cymru i ddysgu mwy am hanes rhai o’r artistiaid ac i leoliadau sy’n arbennig iddyn nhw, mewn cyfres newydd sy’n dechrau nos Wener, 22 Medi ar S4C.

Y cantorion eraill sy’n barod i gydweithio a chanu deuawdau gyda’r tenor, sy’n wreiddiol o Dremadog, Gwynedd yw Elin Fflur, Frank Hennessy, Alys Williams, Al Lewis a Lleuwen Steffan. Bydd Osian Williams o’r band Candelas a’r pianydd adnabyddus Caradog Williams yn rhan o’r broses o addasu’r deuawdau.

Yn rhaglen gynta’r gyfres, bydd Rhys Meirion yn mynd i Ŵyl Rhuthun i gwrdd â Daniel Lloyd, prif leisydd y band Daniel Lloyd a Mr Pinc. Fe fydd y ddau yn mynd ar y trên i’r Amwythig i ymweld â’r platfform lle cyfansoddo­dd Arwel Hughes OBE dôn yr emyn Gymraeg enwog ‘Tydi a roddaist’ ac i Fangor lle ffurfiwyd y band.

“Fe gafodd y band Daniel Lloyd a Mr Pinc ei ffurfio pan ro’n i’n byw yn Eldon Terrace ym Mangor. Mi roedd dod i Fangor yn newid byd i mi. Do’n i erioed wedi cael y fath gyfle i fwynhau nosweithia­u o gerddoriae­th Gymraeg,” meddai Daniel Lloyd, sy’n wreiddiol o Rosllanner­chrugog ond bellach yn byw yn Llandyrnog, Sir Ddinbych gyda’i wraig Elen a’i blant.

“Ysgrifenna­is dair cân yn y llofft yn Eldon Terrace – A’i Esboniad, Tro ar ôl Tro a Werth y Byd. Ymarfer y caneuon wedyn drosodd a throsodd.”

Mae’r deuawdau yn rhaglen gynta’r gyfres yn cynnwys y darn corawl Eidalaidd Miserere ac un o glasuron Daniel Lloyd a Mr Pinc, Eldon Terrace.

“Cefais amser wrth fy modd efo Rhys a’r criw yn ffilmio ac ambell i gyri yn ystod y daith! Sesiwn recordio hwylus iawn yn stiwdio Sain ac mi roedd hi’n fraint cael ffilmio fideo yn y Gadeirlan ym Mangor. Uchafbwynt yr wythnos i fi oedd ffilmio fideo i fy nghân Goleuadau Llundain ar ben bws yn teithio drwy ganol Llundain gyda’r nos,” meddai Daniel Lloyd.

Yn ystod y gyfres, bydd Rhys Meirion, sy’n byw yn ardal Rhuthun, yn teithio i nifer o leoliadau yng Nghymru yn ogystal â lleoliadau annisgwyl i ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi ysbrydoli’r artistiaid i gyd. Deuawdau Rhys Meirion: S4C, nos Wener 22 Medi 9.30

 ??  ?? ● Rhys Meirion a Daniel Lloyd ger Tafarn y Glob, Bangor
● Rhys Meirion a Daniel Lloyd ger Tafarn y Glob, Bangor

Newspapers in English

Newspapers from United Kingdom