Pobol y Cwm
Medi 18-22
AIFF Dani i’r rhandir gyda Jim a Kath i bigo llysiau; a fydd hi’n darganfod eu cyfrinach?
Wrth edrych ar luniau drôn Colin o’r rhandiroedd, mae Megan yn sylwi ar Jim yn dwyn llysiau o randir un o aelodau Bethania!
Mae’r gath allan o’r cwd ac mae Jim yn gandryll gyda Kath am ddweud mai hi oedd perchennog y rhandir.
Mae sefyllfa ariannol Mathew a Vicky yn golygu bod yn rhaid iddynt dderbyn help gan y banc bwyd, ond mae Mathew yn ei chael hi’n anodd derbyn y ffaith eu bod nhw angen cymorth.
Caiff DJ gadarnhad gan yr heddlu bod Linda wedi cymryd gorddos, ond mae’n amau sut y daeth Linda o hyd i’r nerth i gyrraedd y tabledi oedd wedi eu cuddio i fyny’r grisiau. Mae’n rhaid bod rhywun wedi ei helpu. Mae DJ yn crybwyll enw un o’r pentrefwyr wrth yr heddlu a chaiff dau berson eu harestio yn y cwm. Pobol y Cwm: Llun-Gwener 8.00, S4C