Rownd a Rownd
MAE parti pen-blwydd wedi ei drefnu yn y tŷ i Kylie heddiw, ond daw’n amlwg bod rhesymau Kay am wahodd pawb draw yn dra gwahanol i rai ei merch.
Tra bo David a Rhys yn paratoi i fynd ar eu gwyliau, caiff David ei dynnu oddi wrth ei bacio gan Mr Lloyd sydd angen cyngor am ei drafferthion ariannol.
Draw yn nhŷ John, mae Erin ar dân isio mynd am wers yrru.
Ond wrth ddadlau a ffraeo y tu ôl i’r llyw, mae Erin yn cael gwers na wnaiff hi, na neb arall yng Nghilbedlam, ei hanghofio. Rownd a Rownd: Mawrth ac Iau 7.30, S4C